Y Brifysgol yn penodi Iwan Teifion Davies yn Gyfarwyddwr Cerdd

Iwan Teifion Davies

Iwan Teifion Davies

03 Awst 2021

Mae'r arweinydd a'r pianydd o Gymru, Iwan Teifion Davies, wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr newydd ar Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yn gweithio gyda Chyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth i arwain darpariaeth gerddorol y Brifysgol, gan ddod â'r Brifysgol a'r gymuned at ei gilydd a meithrin cysylltiadau newydd drwy ystod unigryw o weithgareddau. 

Astudiodd Iwan Teifion Davies yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, Ysgol Gerdd a Drama Neuadd y Gorfforaeth a Stiwdio'r Opera Genedlaethol yn Llundain, lle y bu'n rhan o amryw berfformiadau mewn cydweithrediad ag Opera Gogledd Lloegr, Opera'r Alban a chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Bu'n arweinydd staff yn Salzburger Landestheater, lle'r oedd yn arwain Mozarteum Orchester mewn darnau a amrywiai o Rossini i Philip Glass. Ac yntau'n Gyfarwyddwr Cerdd OPRA Cymru, fe oedd yr arweinydd ym mherfformiad cyntaf y byd o Wythnos yng Nghymru Fydd gan Gareth Glyn, yn ogystal ag arwain yn Fidelio gan Beethoven. Ef hefyd yw Pennaeth Cerddoriaeth yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton, lle ym mis Gorffennaf 2021 bu'n arwain perfformiadau o'r opereta siambr Cendrillon, gan Viardot, a gafodd glod mawr. Yn ddiweddaraf oll, mae wedi arwain cerddorfa cwmni Opera Cenedlaethol Cymru mewn recordiad o opera newydd gan Gareth Glyn, sef Un Nos Ola Leuad.

Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol:  "Rwyf wrth fy modd bod Iwan yn mynd i ymuno â ni i arwain a llunio dyfodol cerddoriaeth yn y Brifysgol. Ynghyd â datblygu llawer o'r agweddau ar ein darpariaeth gerddorol draddodiadol sydd mor annwyl i gynifer o bobl, mae Iwan hefyd yn dod gydag ef yr angerdd a'r creadigrwydd i greu gweledigaeth a strategaeth newydd i Gerddoriaeth yn Aber, a fydd yn ei galluogi i ffynnu fel ased cymunedol sydd wedi dod yn anhepgorol erbyn hyn."

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth:  “Mae gan Ganolfan y Celfyddydau a'r Brifysgol hanes balch o ddarparu cyfleoedd i greu a mwynhau cerddoriaeth.   Edrychwn ymlaen at gydweithio ag Iwan i feithrin prosiectau a mentrau newydd, ac i wireddu potensial llawn y ddarpariaeth gerddorol ac i ddarparu adnoddau cerddorol er budd y gymuned gyfan."

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Iwan Teifion Davies: “Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr her o ddatblygu darpariaeth gerddorol y Brifysgol, a chreu cysylltiadau newydd o fewn y gymuned yn Aberystwyth.”

Mae'r cynigion ar gyfer ail-lansio Cerddoriaeth yn Aber yn cynnwys: dyrannu mannau ymarfer priodol ar gyfer gweithgareddau cerddorol grwpiau mawr ac agor cyfleoedd ar gyfer mathau eraill o ymarfer a chreu cerddoriaeth.  Bydd myfyrwyr bwrsariaethau cerddoriaeth hefyd yn cael cymorth i gyfrannu at ddatblygiadau i adfywio’r ddarpariaeth gerddorol ar gyfer y Brifysgol a'r gymuned ehangach yn Aberystwyth a'r tu hwnt.