Pa fath o Gymru hoffech chi fyw ynddi?
13 Gorffennaf 2021
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn awyddus i glywed eich safbwyntiau ynghylch y math o Gymru yr hoffech chi fyw ynddi.
Gwahoddir pobl o Aberystwyth a'r cyffiniau i ddod i ddau weithdy ar-lein a gynhelir am 7pm-8.30pm ddydd Iau 15 Gorffennaf a dydd Llun 19 Gorffennaf, dan y teitl 'Pa fath o Gymru hoffech chi fyw ynddi, a sut mae cyrraedd yno?'.
Mae'r gweithdai'n rhan o waith parhaus yn y Brifysgol i ail-greu dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Fel yr esbonia Dr Anwen Elias o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Rydyn ni eisiau siarad ag amrywiaeth eang o bobl - gan gynnwys y rheini na fyddent yn ymwneud â thrafodaethau am wleidyddiaeth Cymru fel arfer. Yn sgil y sgyrsiau hyn, rydyn ni eisiau dod i wybod mwy am y pethau hynny sydd bwysicaf i chi - fel y gallwn fyfyrio ar effaith hynny ar y modd y dylid, yn y dyfodol, wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau ni i gyd yng Nghymru."
Bydd y gweithdai anffurfiol yn gyfle i'r sawl sy'n bresennol rannu eu profiadau a nodi materion o'u safbwynt hwy eu hunain, eu mudiad ac/neu eu cymuned, a thrafod y materion hyn â phobl eraill o'r ardal leol. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar fywyd pob dydd, a'r hyn y mae penderfyniadau gwleidyddol neu lywodraethol yn ei olygu i bob un ohonom, felly nid oes angen gwybodaeth flaenorol.
Fel yr esbonia'r Athro Matt Jarvis o Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol: "I ni fel ymchwilwyr, mae hwn yn gyfle i sicrhau bod ein gwaith yn wirioneddol werthfawr i bobl Aberystwyth a'r cyffiniau, a bydd eich cyfraniadau yn cael dylanwad uniongyrchol ar y cam nesaf y byddwn yn ei gymryd.
"I chi, gobeithiwn fod hwn yn gyfle i wneud cysylltiadau newydd a chyfrannu at ffyrdd newydd o feddwl am y modd y caiff Cymru ei rhedeg yn y dyfodol. Inni gyd, gobeithiwn fod hyn yn gychwyn ar raglen hwy o rannu a dysgu gyda'n gilydd."
I archebu eich lle am ddim yn un o'r gweithdai, ewch i: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/what-kind-of-wales. Anfonir cyfarwyddiadau ymuno a chynllun manwl ar gyfer y sesiwn i bawb sy'n cofrestru.
Bydd y sawl sy'n dod i'r gweithdy hefyd yn cael cynnig Credydau Amser Tempo i gydnabod yr amser y maent wedi'i gyfrannu i'r prosiect hwn. Gellir defnyddio'r credydau hyn ar gyfer ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau a gynigir gan rwydwaith o bartneriaid cydnabod.
Os hoffech drafod yr ymchwil mewn rhagor o fanylder, cysylltwch â Dr Anwen Elias - awe@aber.ac.uk.