Teyrngedau i gyn-Lywydd y Brifysgol
Yr Arglwydd Elystan Morgan
07 Gorffennaf 2021
Mae teyrngedau wedi eu talu i’r Arglwydd Elystan Morgan a fu farw’n 88 mlwydd oed.
Yn enedigol o Geredigion, cynrychiolodd yr Arglwydd Elystan y sir fel ei Haelod Seneddol rhwng 1966 a 1974, cyn gwasanaethu fel aelod o Dŷ’r Arglwyddi rhwng 1981 a 2020 ac fel barnwr cylchdaith rhwng 1987 a 2003.
Roedd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, a dychwelodd i’w alma mater yn 1997 yn dilyn ei benodiad yn Llywydd a Chadeirydd Cyngor y Brifysgol, rôl y bu ynddi am 10 mlynedd.
Cafodd ei urddo’n Gymrawd er Anrhydedd gan y Brifysgol yn 1991, ac yna yn 2013 cafodd ei gyfraniad at y Brifysgol ei gydnabod o’r newydd wrth i adeilad Adran y Gyfraith a Throseddeg gael ei enwi ar ei ôl.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion am farwolaeth yr Arglwydd Elystan Morgan. Roedd yn gyn-Lywydd y Brifysgol, a bu ei gyfraniad diflino at fywyd cyhoeddus Cymru ac at y Brifysgol yn enfawr.”
“Byddai ei wybodaeth eang a’i ddoethineb, ei gynhesrwydd a’i hiwmor chwareus yn gadael argraff ar y rhai fyddai’n ei gyfarfod, ac roedd ganddo ddiddordeb byw yng ngwaith y Brifysgol ac Adran y Gyfraith a Throseddeg, lle bu’n fyfyriwr ei hun, gan ddarparu cefnogaeth a chyngor yn ôl y galw, ond heb ymyrryd.”
“Yn bersonol rwy’n hynod ddiolchgar iddo am y croeso cynnes a’r cyngor a dderbyniais ganddo ar ôl i mi gyrraedd Aberystwyth, ac am ei gefnogaeth, er bod ei iechyd yn dirywio, yn ystod fy nghyfnod yma. Fel prifysgol rydym yn diolch iddo am bopeth a roddodd i ni, ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu ar yr adeg anodd hon.”
Dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, Canghellor Prifysgol Aberystwyth: “Gwnaeth yr Arglwydd Elystan Morgan gyfraniad enfawr i’r Deyrnas Unedig ac i Gymru yn rhinwedd ei wahanol swyddogaethau. Cyfrannodd o’i ddysg helaeth at y ddau, ei ddealltwriaeth a’i wybodaeth o Gymru a’r gyfraith. Dangosodd ddoethineb a thosturi enfawr yn enwedig fel barnwr a Llywydd y Brifysgol. Braint oedd ei adnabod dros sawl degawd ac yn ei wahanol swyddogaethau, a chael gweld gyda fy llygaid fy hunan y cyfraniad sylweddol a wnaeth i'r Deyrnas Unedig, ac yn arbennig i Gymru.”
Dywedodd y Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Gwnaeth yr Arglwydd Elystan gyfraniad arbennig iawn i Gymru a datblygiad y genedl Gymreig, ac mae ein dyled yn fawr iddo. Roeddem hefyd yn hynod ddiolchgar am ei gefnogaeth gyson i ni fel Prifysgol, ac yn arbennig o falch ei weld yn mynychu digwyddiadau yn y Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf. Gosododd seiliau cadarn yn ystod ei gyfnod fel Llywydd a Chadeirydd y Cyngor, a pharhaodd yn ffrind da i’r sefydliad tan y diwedd.”
Dywedodd Sir Emyr Jones Parry, cyn-Lywydd a Chadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Roedd Elystan Morgan yn wladgarwr Cymreig ac yn ŵr anrhydeddus yng ngwir ystyr y gair. Yn fab i Geredigion, carai ei wreiddiau a'i genedl, ac ar yr un pryd edrychai allan ac yn rhyngwladol. Roedd ei gyfraniad at fywyd gwleidyddol bob amser yn ddysgedig, yn gwrtais ac yn cael ei barchu, ac roedd ei ymrwymiad i Gymru ddatganoledig gryfach yn tanlinellu popeth. Byddai’n dadlau gyda meddwl cyfreithiol miniog tra'n cynnal ei synnwyr digrifwch treiddgar. Dros y blynyddoedd, parhaodd i gyfrannu at ei brifysgol a gwasanaethodd hi fel Llywydd gydag urddas. Dylai ei genedl alaru amdano.”