Prifysgol Aberystwyth i arwain ymchwil ar gwtogi nwyon tŷ gwydr yn dilyn grant sylweddol

Cae Miscanthus yn Aberystwyth lle mesurir nwyon tŷ gwydr
24 Mai 2021
Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain ar waith ymchwil i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer fel rhan o gynllun o bwys sy’n cael ei gyllido gan y llywodraeth.
Fel rhan o fuddsoddiad £30 miliwn gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) dros gyfnod o bedair blynedd a hanner, bydd ymchwilwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth yn arwain consortiwm o bartneriaid er mwyn datblygu cnydau biomas. Byddant hefyd yn cydweithio ar adfer pridd mawn fel rhan o’r prosiectau tynnu nwyon tŷ gwydr.
Ynghyd â phartneriaid y prosiect, byddant yn dangos y technolegau diweddaraf ar gyfer plannu helyg a Miscanthus, y ddau gnwd biomas tragwyddol sydd fwyaf addas ar gyfer amgylchfyd y DU.
Arweinir y gwaith gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad gyda phrifysgolion Aberdeen a Swydd Gaerloyw, Rothamsted Research, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, ac yn elwa o arbenigedd diwydiannol Terravesta Cyf a Willow Energy.
Mae’r ymchwil yn cynnwys treialon maes newydd yng Ngholeg Bishop Burton yn Swydd Efrog a Choleg Myerscough yn Swydd Gaerhirfryn.
Mae’r ddau gnwd yn tyfu’n dda ar dir nad yw’n addas iawn ar gyfer cynhyrchu bwyd, a gallant gael eu cynaeafu bob un i dair blynedd.
Gan eu bod yn tynnu carbon deuocsid allan o’r atmosffer wrth iddynt dyfu, fe’u hystyrir fel ffynhonnell trydan adnewyddadwy a charbon isel.
Mi fydd y tîm hefyd yn mesur llif y carbon yn fanwl er mwyn egluro’n fwy cywir beth sydd yn digwydd i’r carbon hwn.
Dywedodd Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n fraint aruthrol ein bod wedi cael ein dewis i gymryd rôl flaenllaw yn y buddsoddiad pwysig hwn yn yr ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd y prosiect rydyn ni’n ei arwain, ynghyd ag eraill, yn gwneud cyfraniadau pwysig er mwyn cyrraedd y targedau net sero - targedau sydd mor allweddol er mwyn diogelu dyfodol ein planed.
“Yn ogystal, rydyn ni’n llawn cyffro am y cyfleoedd ehangach a ddaw o dyfu’r cnydau ar safleoedd ein partneriaid. Mae gan golegau Bishop Burton a Myerscough nifer fawr o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau amaethyddol. Maent hefyd yn ganolbwynt i’w cymunedau ffermio lleol ac felly’n cynnig cyfle go iawn i ni sicrhau fod pobl ifanc yn cymryd rhan yn yr ymchwil, ynghyd â chyrraedd ffermwyr presennol yn y cymunedau o’u hamgylch drwy gynadleddau a diwrnodau agored.”
Mae Tynnu Nwyon Tŷ Gwydr yn disgrifio ystod o dechnoleg sy’n tynnu CO2 o’r atmosffer yn uniongyrchol, gan anelu at wrthsefyll newid hinsawdd a achosir gan ddynoliaeth drwy ymyrraeth ar raddfa eang.
Defnyddir y canlyniadau er mwyn llywio penderfyniadau’r llywodraeth yn yr hir dymor ar y dechnoleg fwyaf effeithiol er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau allyriadau CO2 er mwyn cyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
Rhan allweddol o’r buddsoddiad yw ariannu prosiectau unigol ynghyd â ‘Hwb’, a gydlynir gan Brifysgol Rhydychen, sy’n mynd i’r afael yn benodol â phwysigrwydd ffactorau economaidd a chymdeithasol, a sut mae hynny’n effeithio ar bolisi’r dyfodol.
Mae’r rhaglen, sy’n werth £31.5 miliwn, yn ail ran o Gronfa Blaenoriaethau Strategol y Llywodraeth, sy’n buddsoddi mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o ansawdd uchel.
Hon yw’r rhaglen fwyaf i asesu dulliau Tynnu Nwyon Tŷ Gwydr ac wedi ei chyllido gan Lywodraeth y DU drwy Ymchwil ac Arloesi’r DU hyd yn hyn.
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, Yr Athro Syr Duncan Wingham, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi’r DU:
“Mae lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn flaenoriaeth i’r DU, ond mae’n glir na fydd hynny ar ei ben ei hunan yn ddigon er mwyn lleihau CO2 a chyrraedd targedau newid hinsawdd sero-net y Deyrnas Unedig erbyn 2050.
“Bydd y prosiectau hyn yn ymchwilio i sut y gallwn ni dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer gan ddefnyddio technolegau arloesol ar y raddfa sydd ei hangen er mwyn diogelu ein planed. Mae’r buddsoddiad hwn gan Ymchwil ac Arloesi’r DU yn arbennig o arwyddocaol wrth i’r DU baratoi i gynnal COP26 yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.”
Mi fydd staff o Brifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda gwyddonwyr yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mangor ar brosiect arall i adfer mawn er mwyn tynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.
Planhigion sydd wedi pydru ac wedi cronni dros filoedd o flynyddoedd yw mawn, ac mae’n storfa garbon enfawr.
Mae llawer o briddoedd mawn yn y DU mewn cyflwr gwael ac yn cyfrannu at allyriadau carbon.
Mae atal dirywiad pellach o ran faint o garbon sydd wedi ei storio a gwella’r cynefin, fel ei fod yn gallu dal a storio carbon o’r atmosffer unwaith eto, yn gwella bioamrywiaeth ac yn cynorthwyo atal newid hinsawdd.
Ychwanegodd Mariecia Fraser o Brifysgol Aberystwyth:
“Yn eu cyngor diweddar i Lywodraeth Cymru, awgrymodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y dylid adfer tua 40,000 hectar o fawn erbyn 2050 fel rhan o gyfraniad Cymru at daclo newid hinsawdd. Yn y prosiect hwn, fe ddangoswn ni sut y mae’n bosibl i adfer corsydd blanced yr ucheldir drwy dynnu’r Molinia sy’n dominyddu a chynyddu faint o fwsogl Sphagnum sydd yno. Fe fyddwn ni’n ymchwilio i sut y gellid trin y deunydd planhigion rydyn ni’n tynnu o’r ardaloedd hyn er mwyn cynhyrchu gwrtaith biochar.”