Disgwyl i Labordy’r Traeth ddychwelyd i lan y môr wrth i Brifysgol Aberystwyth ddathlu Wythnos Roboteg

BeachLab 2018

BeachLab 2018

19 Mai 2021

Disgwylir i robotiaid o bob lliw a llun ymgynnull yn y bandstand yn Aberystwyth unwaith eto'r haf hwn wrth i Brifysgol Aberystwyth ddathlu Wythnos Roboteg y DU (19-25 Mehefin 2021).

Mae cynlluniau ar waith i Labordy’r Traeth, sydd wedi denu miloedd o bobl i adeiladu a chwarae gyda robotiaid, a rhyfeddu at greadigrwydd gwneuthurwyr robotiaid dros y blynyddoedd, i ddychwelyd i’r Prom yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 19 Mehefin 2021, os yw mesurau COVID yn caniatáu.

Yn draddodiadol, mae’r digwyddiad undydd sy’n cynnwys robotiaid tir, môr ac awyr, wedi bod yn llwyfan lliwgar i wneuthurwyr robotiaid ifanc o Glwb Roboteg Aberystwyth a chyfle i weld rhai o greadigaethau gwych Dr Who sydd wedi eu hadeiladu gan Stephen a Tomos Fearn.

Dros y blynyddoedd, gwelwyd nifer o gyfraniadau nodedig yn ystod Labordy’r Traeth, gan gynnwys y perfformiad cyhoeddus cyntaf gan gerddorfa roboteg, a aeth ymlaen i ymddangos yn Narlith Nadolig y Sefydliadau Brenhinol ar y BBC.

Yn fwy diweddar, dathlodd Wythnos Roboteg gysylltiad Aberystwyth â thaith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) i’r blaned Mawrth, gyda dadorchuddio replica maint llawn o grwydryn y daith, yr ExoMars Rover, yn fyw ar y teledu.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd cyfle i weld llong danfor roboteg newydd y Brifysgol, Afanc.

Mae'r llong, sy’n ddau fetr o hyd ac yn gallu plymio i ddyfnder o 50 metr, yn ychwanegiad newydd o bwys i deulu cerbydau ymreolaethol Aberystwyth, a bydd yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am y môr.

Yn ogystal â chyfle i weld rhai o ddatblygiadau roboteg diweddaraf y Brifysgol, bydd gweithdai ar-lein hefyd yn ystod yr wythnos a fydd yn cynnig awgrymiadau a chyngor ar adeiladu a rhaglennu robotiaid. Mae yna gynlluniau hefyd i ddangos modelau 3D o robotiaid mewn amgylchedd rhithwir.

Dywedodd trefnydd Wythnos Roboteg Aberystwyth, Dr Patricia Shaw: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer ymchwil roboteg ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at allu dychwelyd i’r Bandstand eleni gyda Labordy’r Traeth, wrth inni nodi Wythnos Roboteg y DU.”

“Mae robotiaid yn rhan gynyddol o fywyd bob dydd, ac felly mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn ar gyfer codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a diddordeb yn yr ymchwil a'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae'r dyfodol yn dibynnu ar blant yn datblygu'r sgiliau i adeiladu a rhaglennu robotiaid i allu cwblhau ystod eang o dasgau, felly mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos wedi'i chynllunio i ymgysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed a gallu.”

Oherwydd cyfyngiadau COVID, cynhaliodd y tîm Wythnos Roboteg Aberystwyth 2020 ar-lein.

Cyflwynydd y digwyddiad oedd Stephen Fearn o Glwb Roboteg Aberystwyth, a daeth ag arbenigwyr roboteg o bob rhan o'r Brifysgol ynghyd i siarad am eu gwaith, gan gynnig mewnwelediad hynod ddiddorol i'r dechnoleg y maent yn ei ddefnyddio yn eu hymchwil.

Gellir gweld y digwyddiad llawn ar-lein yma: https://www.youtube.com/watch?v=GkE_1Csoexg.

I gael rhagor o wybodaeth am Labordy’r Traeth ac Wythnos Roboteg Aberystwyth ewch i roboticsweek.dcs.aber.ac.uk, tudalen Facebook y digwyddiad https://www.facebook.com/aberroboticsweek, e-bostiwch roboticsweek@aber.ac.uk, neu dilynwch #WythnosRobotegAber.

Cefnogir Wythnos Roboteg Aberystwyth 2021 gan Rwydwaith UK-RAS a BCS Y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth.