Gwobr Adran y Flwyddyn i'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
18 Mai 2021
Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol enillodd deitl Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Staff a Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr, 2021.
Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol, a oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed eleni, ar-lein ar 6 Mai 2021. Mae'r gwobrau, a drefnir gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth gan y Brifysgol, yn nodi a chymeradwyo cyfraniadau staff a myfyrwyr at y profiad o fod yn fyfyriwr.
Roedd enwebiadau'r myfyrwyr ar gyfer yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn canmol rhagoriaeth academaidd ac ymdrechion eithriadol yr adran yn ystod blwyddyn heriol, ond hefyd ei hymroddiad i les ei myfyrwyr drwy greu cymuned gefnogol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Dywedodd Chloe Wilkinson-Silk, Swyddog Materion Academaidd UMAber ar gyfer 2020-21:
"Dros y ddegawd ddiwethaf, mae'r gwobrau hyn wedi cydnabod unigolion sy'n dangos ymroddiad arbennig i brofiad y myfyrwyr a'r gymuned yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, unigolion y mae eu cyfraniad wedi helpu i wneud byw a dysgu yma yn arbennig iawn.
Yn y byd newydd hwn, mae'r staff wedi cael eu herio i feddwl am ffyrdd hwyliog, llawn dychymyg ac arloesol o wneud dysgu'n hygyrch, ac mae enwebiadau eleni wedi dangos yn glir bod gennym nifer o unigolion creadigol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'r gwobrau hefyd yn cydnabod myfyrwyr sydd wedi helpu i sicrhau'r addysg a'r profiad myfyrwyr gorau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth, megis cynrychiolwyr academaidd sy'n hyrwyddo llais y myfyrwyr, mentoriaid myfyrwyr sy'n hyfforddi eu cyfoedion gydag empathi ac anogaeth, a'r rhai sy'n gwirfoddoli o fewn y Brifysgol a'r gymuned leol."
Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Wrth ddarllen drwy'r enwebiadau ar gyfer y gwobrau eleni, rwyf wedi cael fy nghyffwrdd gan y clod eithriadol a'r teyrngedau hynod gan ein myfyrwyr am ymroddiad staff Prifysgol Aberystwyth. O ystyried yr amgylchiadau y bu’n rhaid i’r Brifysgol weithio ynddynt dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n hynod o falch o fod yn gysylltiedig â chydweithwyr rhagorol ar draws y sefydliad sydd wedi codi safon eu haddysgu i uchelfannau newydd yn wyneb yr heriau sylweddol a godwyd gan y pandemig. Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr ac enwebeion ar gyfer y gwobrau eleni."
Dyma enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2021:
Adran y Flwyddyn
Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Darlithydd y Flwyddyn
Panna Karlinger, Mathemateg a'r Ysgol Addysg
Tiwtor Personol y Flwyddyn
Dr Susan Chapman, Yr Ysgol Addysg
Goruchwyliwr y Flwyddyn
Dr Simon Payne, Yr Adran Seicoleg
Aelod Staff Ategol/Gwasanaeth y Flwyddyn
Lorraine Spencer, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
Jake Christie, Yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
Yuyao Wang, Ysgol Fusnes Aberystwyth
Mentor Myfyrwyr y Flwyddyn
Cat Oliver, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Aelod Staff sy'n Fyfyriwr y Flwyddyn
Tom Mumford, Yr Adran Gyfrifiadureg
Myfyriwr-Wirfoddolwr y Flwyddyn
Adam Burlingham, Adran y Gyfraith a Throseddeg
Gwobr Categori Agored
Beth Wright, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a Joel Adams, Yr Adran Gyfrifiadureg