Milfeddyg o Sir Benfro yn ymuno â phrifysgol yng Nghymru i ymchwilio i amaethyddiaeth drachywir

Becca Roberts, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth

Becca Roberts, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth

26 Ebrill 2021

Mae milfeddyg o Sir Benfro wedi penderfynu newid gyrfa i ymgymryd ag ymchwil filfeddygol arloesol fydd yn helpu ffermwyr Cymru i fod yn flaengar mewn iechyd anifeiliaid, wrth iddi ddechrau ar ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth pan agorir ysgol filfeddygaeth gyntaf Cymru yno ym mis Medi.

Cafodd Becca Roberts, sy’n byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ei magu ar fferm ym Mro Morgannwg. Ar ôl graddio o Ysgol Filfeddygaeth Prifysgol Bryste, dechreuodd Becca weithio gyda Milfeddygon y Priordy, Aberteifi, cyn symud i Fenton Vets yn Hwlffordd.

Mae ymchwil Becca Roberts ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei ariannu drwy ysgoloriaeth  Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn cael cefnogaeth Hybu Cig Cymru (HCC) fel rhan o’i Bortffolio Ymchwil a Datblygu.

Trwy gyfrwng ei PhD, mae Becca Roberts yn gobeithio cael yr iechyd, lles a chynhyrchiant gorau i dda byw wrth ddefnyddio technolegau trachywir.

Mae canfod clefydau yn gynnar yn hollbwysig er mwyn gallu eu trin yn gywir cyn gynted â phosib. Fodd bynnag, mae gwneud hynny’n anodd, ac yn aml bydd cynhyrchiant wedi dioddef yn sylweddol cyn bod symptomau clinigol yn dod i’r amlwg.

Gallai technolegau trachywir fel synwyryddion, wella’r modd y mae clefydau’n cael eu canfod yn y diwydiant ac maent yn debygol o newid y ffordd y mae ffermwyr, gwyddonwyr a milfeddygon yn canfod ac yn trin afiechydon da byw.

Dywedodd Becca Roberts: “Mae’n wych ymuno â Phrifysgol Aberystwyth mewn cyfnod mor gyffrous, pan fo ysgol filfeddygaeth gyntaf Cymru yn agor eleni. Gall technolegau trachywir fesur ymddygiad da byw 24 awr y dydd.

“Bydd f’ymchwil yn adeiladu ar astudiaethau blaenorol yn yr adran yma yn Aberystwyth ac at raglen ymchwil a datblygu HCC. Y nod yw gwerthuso technolegau trachywir er mwyn canfod newidiadau yn ymddygiad defaid a gwartheg sydd yn gysylltiedig â newidiadau pwysig mewn iechyd.

“Gall data sy’n cael ei gasglu gan dechnolegau trachywir adnabod clefydau cyn bod arwyddion clinigol yn weladwy.  Ein nod yw asesu gallu’r dechnoleg i ganfod clefydau sy’n cael effaith ar anifeiliaid yn ystod cyfnodau allweddol yn y gylchred gynhyrchu, fel y rhai sy’n cael effaith ar famogiaid tuag adeg wyna. Bydd canfod a thrin clefydau yn gynnar yn galluogi ffermwyr i leihau colledion a gwella lles anifeiliaid ar eu ffermydd.”

Dr Rhys Aled Jones, darlithydd Gwyddor Da Byw yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw prif oruchwylydd prosiect Becca Roberts. Dywedodd: “Rydym wrth ein bodd y bydd y prosiect hwn yn cael ei arwain gan Becca, milfeddyg lleol profiadol sy’n teimlo’n angerddol dros amaethyddiaeth Cymru. Bydd y prosiect yn digwydd yr un pryd ag y bydd y myfyrwyr milfeddygol cyntaf yn cyrraedd Ysgol Gwyddor Filfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth, a fydd yn ganolfan ar gyfer addysg ac ymchwil milfeddygol yng Nghymru.”