Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru i gynnal hystingau etholiad y Senedd
19 Ebrill 2021
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal hystingau etholiadol ddydd Mawrth 27 Ebrill 2021, cyn yr etholiadau i Senedd Cymru ar ddydd Iau 6 Mai.
Trefnir y digwyddiad gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a chaiff ei gynnal ar Zoom am 7yh. Cadeirydd y sesiwn fydd Sara Gibson o’r BBC.
Dywedodd Dr Lucy Taylor o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac un o’r trefnwyr: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cynnal yr hystingau hyn wrth i bobl baratoi i fwrw eu pleidleisiau ar gyfer yr hyn a fydd, yn ôl pob argoel, yn etholiad hynod ddiddorol ledled Cymru”.
“Er bod COVID wedi gwneud ymgyrchu wyneb yn wyneb yn anodd, mae ein hystings Zoom yn gyfle gwych i weld sut mae ymgeiswyr yn ymateb i gwestiynau a phryderon pobl gyffredin.”
Mae’r digwyddiad ar agor i'r cyhoedd ac mae tocynnau ar gael ar Tocyn Cymru. Bydd croeso i gwestiynau ymlaen llaw a bydd cyfarwyddiadau am sut i gyflwyno cwestiynau yn cael eu darparu unwaith y bydd lle wedi'i archebu.
Mae gwahoddiadau wedi cael eu hanfon at yr holl brif bleidiau gwleidyddol i gymryd rhan yn yr hystingau.
Ar adeg cyhoeddi’r datganiad hwn, roedd Amanda Jenner (Ceidwadwyr Cymru), Cadan ap Tomos (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Dylan Lewis-Rowlands (Llafur Cymru) ac Elin Jones (Plaid Cymru) wedi cadarnhau y byddant yn bresennol.
Bydd y digwyddiad yn ddwyieithog, gyda chyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu ar gyfer y rhai nad ydyn yn siarad Cymraeg.
Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn ymgymryd â gwaith ymchwil o safon fyd-eang mewn materion gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd cyfoes sy'n berthnasol i Gymru, gan dynnu ar safbwyntiau amlddisgyblaeth i hyrwyddo gwybodaeth gwyddor gymdeithasol, arwain agendâu ymchwil rhyngwladol ac yn llywio datblygiad polisi a thrafodaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae hefyd yn chwarae rôl allweddol fel cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).