Darlith gan arbenigwr blaenllaw ar Brexit yn cychwyn cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus
Anand Menon
15 Ebrill 2021
Bydd arbenigwr blaenllaw ar wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno'r cyntaf mewn cyfres newydd o ddarlithoedd cyhoeddus a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth ar nos Fercher 21 Ebrill 2021.
Bydd yr Athro Anand Menon yn dadansoddi'r hyn sydd wedi digwydd ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd a sut y gallai’r berthynas ddatblygu yn y dyfodol.
Yn ei ddarlith ar-lein 'Brexit: What’s happened and what does the future hold?', bydd yr Athro Menon hefyd yn ystyried y goblygiadau hirdymor i economi ac i wleidyddiaeth y DU, gan gynnwys datganoli a pholisi tramor.
Mae disgwyl iddo ddadlau y bydd effaith economaidd Brexit yn llawer mwy nag effaith COVID yn y tymor canolig, ond yn dweud na ddylid cymryd yn ganiataol y bydd yn effeithio o reidrwydd ar y canfyddiad cyhoeddus o Brexit.
Bydd yr Athro Menon yn traddodi ei ddarlith ar-lein am 7.30yh nos Fercher 21 Ebrill 2021. Mae croeso i bawb fynychu ond mae angen cofrestru cyn y digwyddiad ar aber.ac.uk/digwyddiadau.
Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae Anand Menon yn cael ei gydnabod fel un o'r arbenigwyr blaenllaw ar wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i gyflwyno'r ddarlith gyntaf yn ein cyfres newydd o ddarlithoedd cyhoeddus. Nod y darlithoedd hyn yw rhannu gwybodaeth a hwyluso trafodaeth gyhoeddus ar sut mae bywyd ar yr ynysoedd hyn yn debygol o newid dros y degawdau nesaf. Byddant yn adeiladu ar hanes hir y Brifysgol o addysg flaengar ac arloesol, ac yn helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o nifer o'r heriau, bach a mawr, sy'n ein hwynebu fel cymdeithas."
Ariennir y gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) drwy Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru, sy'n darparu cyllid blynyddol i sefydliadau addysg uwch Cymru i hybu eu gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth a chefnogi eu cynlluniau cenhadaeth ddinesig ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Ynglŷn â'r Athro Menon
Mae Anand Menon yn Athro Gwleidyddiaeth Ewropeaidd a Materion Tramor yng Ngholeg y Brenin Llundain. Mae hefyd yn gyfarwyddwr prosiect The UK in a Changing Europe (www.ukandeu.ac.uk). Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys polisïau a sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd, diogelwch Ewropeaidd, a gwleidyddiaeth Prydain. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd at y cyfryngau print a darlledu. Mae'n gyd-olygydd The Oxford Handbook of the European Union (OUP, 2012), ac yn gyd-awdur Brexit and British Politics (Polity, 2018). Mae'n un o ymddiriedolwyr Full Fact, yn aelod o Gyngor Strategol y Ganolfan Polisi Ewropeaidd, yn aelod o Gyngor y Cyngor Ewropeaidd ar Gysylltiadau Tramor, ac yn gymrawd cyswllt Chatham House. Trydar: @anandmenon1 Gwefan: anandmenon.co.uk