Galw am raglen integredig er mwyn adfer Cymru wledig wedi Covid
Yr Athro Michael Woods
24 Mawrth 2021
Mae angen rhaglen integredig ar y Gymru wledig er mwyn gwella isadeiledd, arallgyfeirio’r economi, gwella mynediad i dai a chryfhau gwytnwch cymunedol wrth iddi adfywio wedi’r pandemig COVID-19, yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ymchwil gan Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth wedi canfod bod y pandemig wedi dwysau’r heriau sy’n wynebu’r Gymru Wledig, ond wedi amlygu cyfleoedd newydd yn ogystal.
Mae’r effeithiau uniongyrchol yn cynnwys niferoedd y gweithwyr ar ffyrlo sy’n uwch na’r cyfartaledd, cynnydd mewn diweithdra, a llai o refeniw i fusnesau bach, yn enwedig twristiaeth.
Yn ogystal, mae’r pandemig wedi amlygu anghyfartaledd o ran mynediad at fand-eang, gofal iechyd a thai, a gorddibyniaeth ar dwristiaeth a microfentrau mewn rhai ardaloedd gwledig.
Mae’r cynnydd mewn gweithio o bell a’r diddordeb o’r newydd mewn bwyd lleol yn cynnig cyfleoedd i adfywio cymunedau gwledig.
Fodd bynnag, mae’r ymchwil yn rhybuddio y bydd rhain yn cael eu colli, os nad oes polisïau a buddsoddiad priodol mewn isadeiledd yn eu lle er mwyn sicrhau bod buddion yn cael eu rhannu’n gyfartal.
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil mewn cydweithrediad gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o raglen ROBUST a ariennir gan yr UE.
Esboniodd arweinydd yr ymchwil, Yr Athro Michael Woods o Adran Daearyddiaeth a’r Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:
“Mae cymunedau gwledig, fel cymunedau dinesig, wedi’u creithio gan COVID-19, ond mae’r pandemig hefyd wedi amlygu gwendidau hirhoedlog yn yr economi gwledig. Hefyd, wrth i fywyd a gwaith symud ar-lein, mae wedi amlygu anghydraddoldebau newydd ymysg trigolion gwledig oherwydd band-eang a chysylltiad ffonau symudol gwael. Mae gweithio o bell yn cynnig y posibiliad o ddenu teuluoedd i gymunedau gwledig a chadw pobl ifanc, ond, heb isadeiledd gwell, ni fydd yn cyrraedd y lleoedd lle mae ei angen fwyaf. Fe allai hefyd gael effaith niweidiol drwy gynyddu chwyddiant prisiau tai.”
Mae’r adroddiad yn adnabod saith blaenoriaeth polisi er mwyn sicrhau bod yr adferiad yn y Gymru wledig yn deg a chynaliadwy.
Mae’r rhain yn cynnwys: arallgyfeirio a chreu economi wledig sy’n fwy gwyrdd; datblygu sgiliau a chyfleoedd y gweithlu gwledig; buddsoddi mewn isadeiledd digidol a pharatoi ar gyfer trafnidiaeth ôl-garbon; annog twristiaeth sydd yn fwy cynaliadwy ac wedi ei gwasgaru’n ehangach; darparu tai fforddiadwy sy’n cwrdd ag anghenion cymunedau gwledig; cefnogi trefi bach gyda Menter Trefi Clyfar; a grymuso cymunedau a chadw cyfoeth o fewn economïau lleol.
Ychwanegodd Yr Athro Woods: “Wrth i Lywodraeth Cymru gychwyn cynllunio ei Rhaglen Datblygu Gwledig newydd, rydym yn galw am ddull cyfannol sy’n cysylltu amaethyddiaeth, yr amgylchedd, yr economi a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn adeiladu Cymru wledig gynaliadwy lle mae pobl yn gallu byw a gweithio. Mae angen gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r gwendidau a’r gwahaniaethau yn y gymdeithas a’r economi gwledig, ond hefyd polisïau sy’n sicrhau bod cymunedau gwledig yn barod ar gyfer heriau’r dyfodol.”
Un o’r prosiectau a nodir yn yr adroddiad fel enghraifft o’r ffordd ymlaen ar gyfer adfer wedi COVID-19 yw 4CG, menter gymdeithasol yn Aberteifi a sefydlwyd er mwyn hybu datblygiad y dref.
Gan weithio gydag eraill, mae 4CG wedi cyflawni nifer o brosiectau, gan gynnwys sawl un gyda phwyslais ar ddefnyddio offer digidol. Maent yn cynnwys gosod rhwydwaith di-wifr cyhoeddus talu-wrth-ddefnyddio drwy’r dref, Rhwyd Teifi, wedi ei seilio ar gysylltiad band-eang cyflym iawn, a datblygu ap y dref ar gyfer llechi a ffonau clyfar.
Wrth siarad am werth y fenter gymdeithasol, dywedodd Clive Davies, un o’i sylfaenwyr:
"Mae'n wych gweld gwaith 4CG yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad - gobeithio y gall fod yn fodel i ardaloedd gwledig eraill. Mae 4CG yn sefydliad cydweithredol mae grŵp bach ohonon ni'n lleol wedi sefydlu i hyrwyddo datblygiad cymunedol trwy adfywio Aberteifi a'r ardal o gwmpas. Sefydlon ni’r fenter gan ein bod ni'n teimlo'n gryf bod llawer o gyfleoedd o fewn Aberteifi i gynyddu cydlyniad cymunedol, gwella ein hamgylchedd, ac i gymryd camau bach i wella'r economi lleol. Mae'r rhwydwaith diwifr yn rhan bwysig o'r ymdrechion hyn, a gobeithio bydd prosiectau eraill tebyg yn ysbrydoli ardaloedd gwledig eraill wrth i ni edrych ymlaen at ail-adeiladu wedi'r pandemig."
Mae argymhellion adroddiad Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi eu mabwysiadu gan Fforwm Gwledig arweinwyr cynghorau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel sail i’w Gweledigaeth Wledig.
Bellach mae’r tîm ymchwil wedi rhyddhau’r ymchwil a dadansoddiad sy’n cefnogi’r argymhellion drwy gyhoeddi eu hadroddiad tystiolaeth.
Cafodd canfyddiadau ac argymhellion yr ymchwil eu cyflwyno mewn digwyddiad “COVID-19 a Chymru Wledig’. Trefnwyd y digwyddiad gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn nodi pen-blwydd y cyfnod clo cyntaf.
Yn ogystal â chyflwyniad gan Yr Athro Woods, trafododd y panel effaith y pandemig ar fusnes, diwylliant, gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau bregus yn y Gymru wledig, gyda siaradwyr gan gynnwys Guy Evans (Y Gymdeithas Gofal), Dr Wyn Morris (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Caroline Turner (Cyngor Sir Powys).