Prifysgol Aberystwyth yn cynnig buddsoddi £2.5m i fanteisio ar ynni'r haul

Llun gan artist o ddatblygiad solar Prifysgol Aberystwyth, gan edrych tua’r dwyrain.

Llun gan artist o ddatblygiad solar Prifysgol Aberystwyth, gan edrych tua’r dwyrain.

22 Mawrth 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd cam sylweddol ymlaen tuag at ei nod uchelgeisiol o fod yn garbon-niwtral erbyn 2030, gan gyhoeddi ei chynlluniau am brosiect ynni adnewyddadwy sylweddol.

Bydd y Brifysgol cyn hir yn gofyn am ganiatâd cynllunio i osod paneli solar o'r radd flaenaf mewn safle wrth ymyl llety myfyrwyr Fferm Penglais. 

Pan fyddant ar waith bydd y paneli solar ffotofoltaidd yn cynhyrchu tua 25% o anghenion trydan blynyddol Campws Penglais, sy'n cyfateb i'r ynni a ddefnyddir gan fwy na 500 o gartrefi. Mi fydd hyn, yn ei dro, yn arwain at arbed 550 tunnell o garbon bob blwyddyn.

Bydd y safle 4 hectar, ar dir y mae'r Brifysgol eisoes yn berchen arno, yn costio ychydig llai na £2.5m ac yn creu arbedion ynni blynyddol gwerth mwy na £300k y flwyddyn. Dros oes y paneli, disgwylir y bydd y Brifysgol yn arbed bron i £18m mewn costau trydan.

Mae'r Athro Neil Glasser, y Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb am yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, yn esbonio: “Mae Polisi Cynaliadwyedd newydd y Brifysgol yn dangos ein hymroddiad i gynnal ein gweithgareddau mewn modd sy'n gynaliadwy ac yn gyfrifol o ran yr amgylchedd.   Mae'r cynnig i fanteisio ar ynni'r haul yn un rhan yn unig o'n hymdrechion i leihau'r ynni a ddefnyddiwn, i wella ein heffeithlonrwydd, ac i wireddu ein haddewid i fod yn garbon-niwtral erbyn 2030.”

“Mae prosiect ynni'r haul yn deillio o ymchwiliad manwl i'r cyfleoedd posib i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, a oedd yn cynnwys astudiaeth ddichonoldeb ar gynhyrchu ynni gwynt o felinau gwynt.   Dyma'r prosiect mwyaf uchelgeisiol o'r prosiectau datgarboneiddio lu y mae'r Brifysgol yn gweithio arnynt, ac mae'n gwneud synnwyr o safbwynt yr amgylchedd ac yn nhermau busnes.   Os ceir caniatâd cynllunio, gobeithiwn fwrw ymlaen â'r gwaith i osod y paneli solar o'r hydref ymlaen.

Mae'r prosiect wedi cael cymorth technegol a masnachol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, a gynigiodd gyngor ar ddewis y safle, asesiad sgrinio, modelu ariannol a chymorth hirdymor i dîm y prosiect.

Dywedodd Brian Drysdale, Rheolwr Datblygu Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru:  “Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o brifysgol sy’n datblygu dulliau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni ac o ddefnyddio eu hasedau yn well.  Mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain drwy esiampl gyda'i gwaith yn datblygu'r safle, gan ychwanegu at y rhaglen sydd eisoes ar waith ar y campws i wella effeithlonrwydd ynni.”