Y Brifysgol yn penodi Cyfarwyddwr/Animateur newydd i ailwampio ei darpariaeth gerdd
05 Mawrth 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu penodi Cyfarwyddwr/Animateur Cerdd newydd i arwain ei darpariaeth gerdd i’r dyfodol. Mae hon yn ddarpariaeth sydd wedi’i hailwampio a’i hadfywio’n ddiweddar.
Ers dros ganrif, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu mewn ffordd allweddol at draddodiad cerddorol balch a hirhoedlog Cymru.
O gofio bod y pandemig COVID-19 byd-eang wedi dod â gweithgarwch cerddorol y Brifysgol i ben, mae’n bleser gan y Brifysgol gyhoeddi y bydd Cerddoriaeth yn Aber yn cael ei hail-lansio. Bydd y ddarpariaeth hon yn parhau i fod yn ymdrech gydweithredol rhwng y Brifysgol, Canolfan y Celfyddydau a’r gymuned ehangach.
Tua diwedd y llynedd, aeth y Brifysgol ati i ofyn am farn aelodau’r gymuned, gan gynnwys grwpiau sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth gerdd bresennol, myfyrwyr, deiliaid bwrsariaethau, rhanddeiliaid allweddol, sefydliadau cerdd ac aelodau’r cyhoedd yn ehangach. Bydd y gwaith i ail-lansio Cerdd yn ymateb i’r drafodaeth honno.
Meddai Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r drafodaeth a’r cyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd ar-lein wedi dangos yn glir bod pobl yn rhoi gwerth ar gerddoriaeth yn Aberystwyth, boed hynny yn y Brifysgol neu y tu hwnt i’w ffiniau. Un peth a ddaeth i’r amlwg yn y trafodaethau oedd ymrwymiad cymuned Aberystwyth i weithgareddau sydd wedi hen ennill eu plwy, megis Philomusica a Chantorion y Brifysgol a’r Dref, a gwyddom yn iawn fod pobl yn hoff iawn o’r gweithgareddau hyn. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd cryfhau’r elfennau cryf hynny sydd eisoes yn rhan o’n darpariaeth gyfredol.
“Gwyddom hefyd fod pobl yn frwd iawn dros gael rhagor o amrywiaeth, cynwysoldeb, arbrofi a chydweithio. Felly, wrth inni ddatblygu a chynllunio ein darpariaeth gerdd ar ei newydd wedd, rydym hefyd yn awyddus i ganolbwyntio ar safbwyntiau a dyheadau ein myfyrwyr ac aelodau iau o’r gymuned, ac i ymdrechu i gyrraedd carfannau a chymunedau newydd.
“Bydd swydd Cyfarwyddwr/Animateur Cerdd yn gyfle cyffrous i’r sawl a benodir i ddod â’i syniadau a’i arbenigedd ei hun i’r swydd, ac i gyfarwyddo ac arwain ein darpariaeth gerdd yn y dyfodol.”
Ar ôl ei benodi/ei phenodi, bydd y Cyfarwyddwr/Animateur yn cydweithio’n agos â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bydd hyn yn golygu y bydd modd datblygu strategaeth gerdd gyffredin y bydd y Brifysgol, Canolfan y Celfyddydau a’r gymuned yn elwa arni, ac y bydd yn ategu rhaglen gyffrous Canolfan y Celfyddydau.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau: “Mae cerddoriaeth yn Aberystwyth wedi elwa ers blynyddoedd lawer ar ddeinameg gydweithredol gyffrous rhwng staff a myfyrwyr y Brifysgol a’r gymuned ehangach. Wrth i’r Brifysgol ddangos ei pharodrwydd i ymrwymo i’w darpariaeth gerdd i’r dyfodol, a buddsoddi yn y ddarpariaeth honno, edrychwn ymlaen at gyfnod newydd o berfformiadau cerddorol egnïol ac ymdrech o’r newydd i ennyn diddordeb pobl drwy gynnig profiad cerddorol amrywiol ac ysgogol. Ein nod yw sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn ein cymuned a thu hwnt yn elwa ar yr hyn y gall cerddoriaeth ei gynnig.”
Ymhlith y cynigion ar gyfer y ddarpariaeth gerdd yn y dyfodol fydd cynnal a datblygu’r bwrsariaethau cerdd i fyfyrwyr a dyrannu gofodau ymarfer priodol er mwyn i grwpiau cerddorol mawr gynnal gweithgareddau ac i roi lle i fathau eraill o ddigwyddiadau ymarfer a chreu cerddoriaeth, gan gynnwys gofodau ymarfer a ‘jamio’ i fandiau roc a phop.
Yn rhan o’r ddarpariaeth newydd a ffres, bydd y Brifysgol hefyd yn gweithio i ddatblygu partneriaethau a phrosiectau cydweithredol â sefydliadau cerddorol eraill yn y gymuned a chyda chyrff allanol. Bydd y partneriaethau hyn o fudd i’r ddwy ochr, a byddwn yn eu defnyddio i feithrin prosiectau a mentrau newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am swydd Cyfarwyddwr/Animateur Cerdd, ewch ar-lein: https://jobs.aber.ac.uk/cy/vacancies.html