Adran Prifysgol Aberystwyth gyda’r cydbwysedd gorau rhwng y rhywiau yn y DU
Detholiad o fynychwyr cynadleddau yn y Colocwiwm BCSWomen Lovelace 2020 rhithiol
28 Ionawr 2021
Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yw’r gorau yn y DU am ei chydbwysedd rhyw, yn ôl adroddiad newydd.
Mae ymchwil gan gwmni diogelwch digidol CrowdStrike wedi dadansoddi’r 25 adran gyfrifiadureg orau yn y DU er mewn dangos pa rai sydd â’r gynrychiolaeth uchaf o fenywod ymysg eu staff addysg ac ymchwil.
Daeth Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth ar frig yr astudiaeth gyda’r cydbwysedd rhyw gorau - mae traean o staff ymchwil ac addysgu’r adran yn fenywod.
Yn ogystal, noda’r adroddiad fod gan Brifysgol Aberystwyth fwy o aelodau o staff sy’n fenywod na dynion ar draws ei holl adrannau, gyda 51.9% yn fenywod yn ôl ei hadroddiad blynyddol ar gydraddoldeb.
Fe gafodd y gydnabyddiaeth o waith yr adran gyfrifiadureg ei chroesawu’n gynnes gan Dr Christine Zarges o Brifysgol Aberystwyth:
“Rydyn ni wrth ein boddau. Mae’r newyddion hyn yn dyst go iawn i waith caled pawb yn y Brifysgol sydd wedi ymdrechu am well cydraddoldeb dros gymaint o flynyddoedd, ac yn parhau i wneud felly. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn flaenoriaeth i bawb yma yn yr adran gyfrifiadureg - mae’n wir yn ymdrech gan yr adran gyfan. Mae’r ymdrechion hyn wedi cael eu cydnabod a ninnau yw’r adran gyntaf yn y Brifysgol i ddal gwobr Efydd Athena SWAN. Fel y mae’r adroddiad yn nodi, mae menywod ifanc yn elwa o gael modelau rôl benywaidd. Mae gennyn ni gynllun gweithredu ar gydraddoldeb sy’n un blaengar, yn ogystal â chymdeithas menywod sy’n weithredol iawn. Hefyd, rydyn ni’n cynnal Colocwiwm BCSWomen Lovelace bob blwyddyn, sy’n dod â myfyrwyr benywaidd, menywod mewn uwch swyddi technoleg a chyflogwyr ynghyd. Mae’r mentrau hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth ac yn braenaru’r tir ar gyfer gwell cydraddoldeb.”
Yn ôl yr adroddiad, mae’r tangynrychiolaeth o staff academaidd benywaidd yn arwain at gylch dieflig sy’n cymell menywod ifanc i beidio â cheisio am yrfa yn y maes ac felly yn colli allan ar swyddi lle mae’r galw a’r cyflog yn uchel.
Dengys ymchwil fod cyfrifiadureg ar ei hôl hi o ran cydraddoldeb rhyw - mae menywod yn ddim ond 13% o’r israddedigion yn y pwnc. Fodd bynnag, gyda modelau rôl benywaidd, mae merched yn 52% yn fwy tebygol o aros mewn meysydd STEM (Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Ychwanegodd Dr Zarges:
“Tra ein bod yn falch iawn o’r gydnabyddiaeth yn yr adroddiad hwn, mae dal gennyn ni ffordd bell i fynd cyn i ni gyrraedd cydraddoldeb go iawn. Fel un o adrannau cyfrifiadureg arweiniol y DU, rydyn ni’n awyddus i gydweithio gyda phrifysgolion eraill er mwyn rhannu arfer da. Rydyn ni’n cydnabod bod angen mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhyw ar draws y sector addysg uwch gyfan.”
Ychwanegodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros rywedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rwy’n falch iawn o weld llwyddiant yr adran gyfrifiadureg. Does dim amheuaeth bod gwelededd aelodau staff benywaidd yr adran wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiad a bodlonrwydd myfyrwyr. Mae hefyd yn cyfrannu at adeiladu hyder ymysg myfyrwyr benywaidd yn eu dyfodol a chyflogadwyedd eu hunain. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i adeiladu ar y llwyddiant arbennig hwn gan ddatblygu cyfartaledd rhyw ar draws y sefydliad. Rwy’n falch o chwarae fy rhan yn y broses honno ochr yn ochr â’r Athro Neil Glasser a’r Athro Colin McInnes.”