Darogan: Prifysgol Aberystwyth yn lansio cyfres o sgyrsiau sy’n edrych i’r dyfodol

Carwyn Jones a Emyr Lewis

Carwyn Jones a Emyr Lewis

19 Ionawr 2021

Nos Iau 21 Ionawr 2021, bydd Prifysgol Aberystwyth yn lansio cyfres newydd o sgyrsiau gydag unigolion amlwg yng Nghymru â’r nod o sbarduno trafodaeth ddwys am fodelau a fersiynau posibl o’r dyfodol sy’n ein disgwyl yn y 2020au a thu hwnt.

Yn y gyntaf yng nghyfres sgyrsiau DAROGAN, bydd cyn-Brif Weinidog Cymru, Yr Athro Carwyn Jones AS yn trafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r Deyrnas Gyfunol gyda’r Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Aelod o’r tîm sy’n trefnu DAROGAN yw Dr Roger Owen, Deon Cysylltiol Darpariaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Dywedodd Dr Owen; “Mae 2020 wedi profi mai peth anodd iawn, os nad amhosibl, yw rhagweld digwyddiadau’r dyfodol; ond profodd hefyd pa mor bwysig yw hi i fod yn barod ac i geisio gweld argoelion y dyfodol hwnnw yn ein byd ni heddiw.

“Gan adeiladu ar draddodiad academaidd heb ei ail yn yr iaith Gymraeg, fe fydd cyfres DAROGAN Prifysgol Aberystwyth yn trafod meysydd megis dyfodol cyfansoddiadol Cymru, dyfodol amaethyddiaeth a’r gymdeithas gefn gwlad, dyfodol darlledu cyhoeddus, newid hinsawdd a chynhesu byd-eang, masnach a phrynwriaeth, heddychiaeth, a chwaraeon a hamdden.

“Ein gobaith yw y bydd y gyfres yn apelio at gynulleidfa ysgolheigaidd a chyffredinol, gan ddelio gyda materion o bwys i boblogaeth eang a’r egwyddorion ymarferol sylfaenol sy’n sail iddynt.”

Cynhelir ail sgwrs y gyfres nos Iau 18 Chwefror pan fydd Penri James, Darlithydd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn trafod dyfodol y sector amaeth yng Nghymru gydag Aled Jones o NFU Cymru, a Glyn Roberts o Undeb Amaethwyr Cymru.

Yna, ar nos Iau 18 Mawrth, bydd Angharad Mair o gwmni Tinopolis yn trafod dyfodol darlledu a’r diwydiannau digidol gyda Dr Jamie Medhurst, Darllenydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Cynhelir y sesiwn gyntaf DAROGAN ar Microsoft TEAMS nos Iau 21 Ionawr 2021 a bydd yn dechrau am 7 o’r gloch yr hwyr. I ymuno, cysylltwch ag wpj@aber.ac.uk gan nodi DAROGAN ym mhennawd yr e-bost.

Penllanw'r gyfres am eleni fydd cyfarfod arbennig ar adeg yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst: gwyliwch allan am fanylion pellach.