Gwasanaeth Coffa Dr Catrin Prys Jones
03 Ionawr 2006
Ddydd Sadwrn 6 Ionawr cynhelir gwasanaeth coffa i Dr Catrin Prys Jones, aelod o staff Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yng Nghapel Hyfrydle, Caergybi. Ceir manylion pellach am y trefniadau a theyrnged iddi gan yr Athro Elan Closs Stephens yma.
Paratoi at Gystadleuaeth Sgiliau 07
08 Ionawr 2007
Dechreuodd y paratoi ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr 2007 ychydig cyn y Nadolig wrth i'r 15 tîm geisio cwblhau'r “Tric Rhaff Aber” fel rhan o'r diwrnod adeiladu tîm.
Bioman yn ennill gwobr 'Energy Globe' Prydain
15 Ionawr 2007
Mae dyfais a gynlluniwyd yn y Brifysgol i gael gwared o lygredd metelau gwenwynig o ddŵr sydd yn llifo o hen weithiau mwyn wedi ennill gwobr Energy Globe Prydain ar gyfer 2006.
Caffi Gwyddoniaeth '07
09 Ionawr 2007
Mae Caffi Gwyddoniaeth Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal dros y pedwar mis nesaf, a'r cyntaf fydd sgwrs gan Dr John Fazey o Brifysgol Rhydychen am ddysgu o chwaraeon.
Teyrnged i'r Athro Glyn Emery
22 Ionawr 2007
Yr Athro Frank Bott sy'n talu teyrnged i un o sefydlwyr yr Adran Gyfrifiadureg yn Aberystwyth.
Cwmwl enbyd
18 Ionawr 2007
Mae gwaith Dr John Grattan ar effeithiau ffrwydriad llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ yn 1783 yn rhan o raglen Timewatch BBC2 Nos Wener 19 Ionawr (9.00 yh).