Croeso Welcome

Llongyfarchiadau a chroeso i Deulu Prifysgol Aberystwyth.

Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â chymuned ein prifysgol ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi’n fuan. Bydd y tudalennau hyn yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am y cyfnod cyn i chi gyrraedd, wedi i chi gyrraedd, a beth i’w ddisgwyl yn ystod eich wythnosau cyntaf yn Aber…

Amserlenni Canolog yr Wythnos Groeso 2026

Fe welwch amserlenni canolog yr Wythnos Groesawu yma, wedi'u teilwra i'r adeg y byddwch yn cyrraedd - p'un a ydych chi'n fyfyriwr Nyrsio sy’n cyrraedd ddechrau mis Medi, yn fyfyriwr rhyngwladol, neu'n ymuno yn ystod y prif gyfnod derbyn rhwng dydd Iau 17 Medi a dydd Sadwrn 19 Medi.

I gael gwybodaeth fanylach am ddigwyddiadau a gweithgareddau, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol, lle gallwch weld y rhain ochr yn ochr â sesiynau a drefnir gan eich Adran Academaidd.

Amserlenni Canolog Wythnos Groeso 2026

Dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber

  • Wythnos Groeso Canolfan Addysg Gofal Iechyd: 7 Medi i 11 Medi 2026
  • Wythnos Groeso Gwyddoniaeth Filfeddygol: 14 Medi i 18 Medi 2026
  • Penwythnos Cyrraedd Myfyrwyr Newydd: 18 Medi i 20 Medi 2026
  • Wythnos CroesoAber: 21 Medi i 25 Medi 2026

Dyddiadau'r Tymor

Cofrestru

Ar y dudalen hon, ceir popeth sydd angen i chi ei wybod o ran cofrestru gyda ni, a'r gwahanol gamau sydd angen i chi eu cwblhau i fod yn fyfyriwr swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Rydym wedi creu dau restr wirio: mae un yn ganllaw cam wrth gam syml, a'r llall yn fersiwn ychydig yn fwy manwl os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.

Byddwch yn derbyn negeseuon e-bost pan fydd angen i chi gwblhau camau penodol, felly gwiriwch eich mewnflwch yn rheolaidd ar ôl ysgogi eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth. Efallai yr hoffech hefyd lyfrnodi'r rhestr wirio hon fel y gallwch ddychwelyd ati yn hawdd pryd bynnag y bo angen.

 

 

Cofrestru

CyrraeddAber – Cyrraedd ac Ymgartrefu

Wedi cyrraedd Aber, edrychwch ar y tasgau hanfodol y bydd angen i chi eu cwblhau yn ystod eich diwrnodau cyntaf drwy ein rhestr wirio wedi'i theilwra, ynghyd â rhai fideos bach gan ein myfyrwyr presennol. Fe welwch hefyd wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi i ymgartrefu yn eich cymuned newydd.

Mae'r rhestrau gwirio a'r fideos wedi'u cynllunio i wneud pob cam o'ch taith i Aberystwyth mor llyfn â phosibl.

CyrraeddAber – Cyrraedd ac Ymgartrefu

Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol

Yn ystod yr Wythnos Groesawu, bydd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i chi gymryd rhan ynddynt. P'un a ydych chi'n chwilio am rywbeth hwyliog, defnyddiol, neu'r ddau, bydd rhywbeth i bawb.

Mae eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol yma i'ch helpu i lywio'r digwyddiadau hyn ac amlygu'r rhai sydd wedi'u teilwra'n benodol i chi.

Cynllunydd Ymgartrefu