Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
TC36100
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymchwil Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Prif aseiniad Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Sgript (hyd at 60 munud o hyd) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Cynllun ymchwil 2500 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Cynllun ymchwil 2500 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Prif aseiniad Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Perfformiad Unigol (hyd at 30 munud) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) NEU Sgript (hyd at 60 munud o hyd) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Ffurfio cwestiwn ymchwil fel sail ar gyfer prosiect estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio'i ateb.
Datblygu sgiliau ymchwilio sy'n briodol i’r pwnc a’r allbwn a ddewiswyd ganddynt, a’u defnyddio wrth weithio’n annibynnol.
Tafoli cyfres o weithiau beirniadol ac/neu astudiaethau achos perthnasol, a’u cymhwyso er mwyn goleuo'r drafodaeth ar y pwnc a ddewiswyd.
Strwythuro a threfnu casgliadau’n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig; neu trwy sgript; neu trwy gyflwyniad cyhoeddus; a gallu adlewyrchu ar y casgliadau ble fo’n briodol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect ymchwil creadigol estynedig, ble mae ganddynt ryddid i ddewis ffurf yr aseiniad terfynol, yn unol ag anghenion a phriodoledd y cwestiwn ymchwil.
Yn ystod y semester cyntaf, bydd rhaid i bob myfyriwr gyflwyno cynllun ymchwil ysgrifenedig 2,500 o eiriau. Ar sail y cynllun ymchwil, bydd modd i’r myfyriwr ddatblygu’r prosiect ar gyfer creu un o’r allbynnau canlynol:
- traethawd hir ysgrifenedig hyd at 10,000 o eiriau.
- sgript ar gyfer unrhyw gyfrwng, hyd at 60 munud o hyd, a portffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
- perfformiad unigol ar gyfer y llwyfan, hyd at 30 munud o hyd, a portffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
Amlygir y berthynas glos rhwng ymchwil â gwaith creadigol yn gyson yng nghynlluniau gradd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Trwy roi rhyddid i fyfyrwyr ddewis ffurf eu prosiect ymchwil, bydd y modiwl yn rhoi cyfle i ddatblygu darn o waith sylweddol sy’n ymgorffori ac yn fynegiant o’r weledigaeth hon.
Yn ystod y semester cyntaf, bydd pob myfyriwr yn dilyn pump darlith/gweithdy, gan weithio tuag at gyflwyno cynnig ymchwil yn ystod yr Wythnos Ddarllen. Un unol â’ch allbwn dewisol, cynhelir un gweithdy grŵp ychwanegol, ac yna un sesiwn tiwtora unigol cyn diwedd y semester. Yn yr ail semester, cynhelir chwe sesiwn tiwtora unigol.

Cynnwys
Cynnwys Mynegol ar gyfer y Darlithoedd/Gweithdai:
1. Diffinio Nodweddion Prosiect Ymchwil: Cwestiwn Ymchwil a Chynllun Gwaith
2. Llunio Cwestiwn Ymchwil
3. Ymarfer fel Ymchwil
4. Arolwg Llenyddiaeth a Chanfod Ffynonellau
5. Ffurfio Cynllun Ymchwil
6. Sesiwn Grŵp Llai: Methodolegau Ymchwil

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir; ac o bosib cyflwyno’r gwaith trwy gyfrwng cyflwyniad cyhoeddus. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. Bydd y modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dilyn cyrsiau ymchwil uwchraddedig. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, diffinio cwestiwn ymchwil ar gyfer ei ateb, a bod yn ymwybodol o’r heriau a chymhlethdodau sydd ynghlwm ag unrhyw broses ymchwil. |
Gwaith Tim | Disgwylir i’r gwaith ar y modiwl gael ei gwblhau’n bennaf yn annibynnol. At hynny, ni roddir unrhyw bwyslais uniongyrchol ar ddatblygu sgiliau gwaith tîm yn ystod y modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | O ganlyniad i gyflwyno cynnig ymchwil, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda’u cyd fyfyrwyr a’r tiwtor a derbyn adborth ffurfiol yn gynnar yn y broses ymchwil. Rhoddir adborth ar y prosiect yn anffurfiol trwy gyfrwng tiwtorialau, a rhoddir adborth manwl i waith ar y ffurflenni asesu terfynol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau beirniadol a disgyblaethol, a bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth eang a ddofn o'r llenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli yn eu meysydd ymchwil. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr darllen, ymchwilio ac (os yn briodol) gwylio ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, perfformiadau) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r rhyngrwyd i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau prosesu geiriau, ac unrhyw feddalwedd perthnasol eraill, yn unol ag anghenion eu prosiect. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6