Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC10520
Teitl y Modiwl
Creu Ffilm
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad a Dyddlyfr  1500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Ffilm  5 Munud  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad a Dyddlyfr Wythnosol  1500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Ffilm  5 Munud  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dadansoddi testunau ffilm yn fanwl

Adnabod nodweddion sinematograffi, sain a mise-en-scène

Defnyddio ystod eang o ddarllen o faes Astudiaethau Ffilm

Arddangos gallu technegol a chreadigol wrth ddefnyddio camerâu ac offer golygu a sain

Dangos dealltwriaeth o sut mae dewisiadau cyfarwyddiadol yn effeithio ar fynegiant gweledol ac eglurder storïol wrth gynhyrchu ffilm ffuglen.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad i'r astudiaeth academaidd o ffilm o bersbectif academiadd ac ymarferol. Y cwestiynnau sy'n greiddiol i'r modiwl fydd: pam yr ystyrir ffilm yn ffurf y gellid astudio, a pha ddamcaniaethau, cysyniadau a dulliau a ddefnyddir i archwilio pwysigrwydd ffilm fel o safbwyntiau artistig, cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol.
Ar yr un pryd, trwy weithdai wythnosol fe fydd myfyrwyr yn cymhwyso'r damcaniaethau yma i waith ymarferol. Cyflwynir myfyrwyr i ddeg cysyniad ac yn y 10 gweithdy dilynnol archwilir y cysyniadau mewn modd ymarferol. Datblygir sgiliau beirniadol a chreadigol-ymarferol myfyrwyr ochr yn ochr.

Cynnwys

Awgrym o Gynnwys y Modiwl

1) Darlith: Pam Astudio Ffilm? Gweithdy: Cyflwyniad i Avid

2) Darlith: Sinematograffi, Gweithdy: Camera a Sain

3) Darlith: Mise en scene, Gweithdy: Camera a Sain

4) Darlith: Golygu, Gweithdy: Ymarfer saethiadau + golygu

5) Darlith: Sain, Gweithdy: Ymarfer sain + golygu

6) Darlith: Naratif, Gweithdy: Ymdriniaeth ffilm fer + sgript

7) Darlith: Realaeth, Gweithdy: Gwaith cyn-gynhyrchu ffilm olaf

8) Darlith: Genre, Gweithdy: Ffilmio ffilm olaf

9) Darlith: Awduraeth, Gweithdy: Golygu ffilm olaf

10)Adolygu'r modiwl a sgrinio ffilm olaf

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl.
Cydlynu ag erail Bydd y sesiynau dysgu yn rhoi’r cyfle i drafod ac chyd greu fel grwp.
Cyfathrebu proffesiynol Mae’r ymarferion cynhyrchu byr yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd ac actorion.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a phynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol.
Gallu digidol Bydd y modiwl yn defnyddio Blackboard i gyfleu prif wybodaeth y modiwl, a defnyddir Aspire, a system Turnitin. Defnyddio meddalwedd proffesiynol i olygu gwaith a chamerâu proffesiynol i ffilmio.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd ac ymarferol drwyddi draw. Bydd disgwyl iddynt ymchwilio a myfyrio ar gasgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a yn y broses o ffurfio’r aseiniadau
Myfyrdod Bydd sesiynau dysgu a’r aseiniadau yn galluogi myfyrwyr i adlewyrchu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc, a’r broses o greu ffilmiau.
Synnwyr byd go iawn Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar drafodaethau a dealltwriaeth o’r cyd-destun proffesiynol. Mae’r modiwl yn pwysleisio gwaith cynhyrchu mewn rolau a ddiffiniwyd yn broffesiynol fel cyfarwyddwr, sinematograffydd ac sgriptiwr. Cyflwynir myfyrwyr hefyd ar lefel sylfaenol i’r gweithdrefnu proffesiynol wrth gynhyrchu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4