Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Ymchwil 2000 o eiriau | 70% |
Asesiad Ailsefyll | .5 Awr Cwis Cwis MCQ .5 Awr | 30% |
Asesiad Semester | Adroddiad Ymchwil 2000 o eiriau | 70% |
Asesiad Semester | .5 Awr Cwis Cwis MCQ .5 Awr | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Casglu data meintiol gan ddefnyddio offer, dulliau neu dechnegau priodol
Dewis a chymhwyso dadansoddiadau ystadegol priodol at setiau data
Dewis a chymhwyso gwybodaeth am gynlluniau ymchwil priodol er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil
Dod i gasgliadau yng ngoleuni canlyniadau dadansoddiadau ystadegol
Rhannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol
Dangos eich bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol
Disgrifiad cryno
Gan ychwanegu at y sgiliau a'r ddealltwriaeth a ddatblygwyd yn eich blwyddyn astudio gyntaf, bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddysgu rhagor o sgiliau ymarferol er mwyn datblygu cynlluniau ymchwil meintiol a dewis a chymhwyso ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau ystadegol i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil o ddiddordeb seicolegol.
Cynnwys
Ymchwilio i ddata: Mesuriad, mathau ar newidion, graddfeydd, gwall mesur ac ystadegol, dosbarthu, tybiaethau ystadegol, dibynadwyedd a dilysrwydd
Ymchwilio i berthnasau a rhagweld newidion: Cydberthynas, atchweliad llinol syml, atchweliad lluosog
Ymchwilio i'r gwahaniaethau rhwng grwpiau/amodau: Cynlluniau rhyng-gyfranwyr, o fewn cyfranwyr a chynlluniau cymysg a ffactorol
Ymchwilio i ddata categorïaidd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cydweithio i gynllunio a chynnal astudiaeth o ffenomena seicolegol ar raddfa fechan. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau i rannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddatrys problemau ymarferol sy'n ymwneud â chynllunio a dadansoddi ymchwil. Rhoddir pwyslais ar weithredoli cynlluniau ymchwil a dewis ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau. |
Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor o sgiliau i ddefnyddio meddalwedd arbenigol i adolygu, i fodelu ac i ddadansoddi data rhifol. |
Myfyrdod | Mae sesiynau ymarferol yn gyfle i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn gallu cymhwyso'r wybodaeth sydd ganddynt am brofion ystadegol at ddata seicolegol. Bydd myfyrwyr yn gallu monitro’u perfformiad eu hunain drwy ddefnyddio'r adnoddau hunan-wirio i arwain eu datblygiad. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor ar eu sgiliau ymchwil drwy ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol a'u bod yn gallu dewis y casgliad cywir o ddata ymchwil ynghyd â'r offer dadansoddi cywir. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5