Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
RG20920
Teitl y Modiwl
Maeth Cymhwysol Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Maeth Anifeiliaid - Dadansoddiad porthiant a dogni.  2000 Words  60%
Asesiad Ailsefyll Arferion maeth mewn gweithle amaethyddol  10 Munud  40%
Asesiad Semester Arferion maeth mewn gweithle amaethyddol  10 Munud  40%
Asesiad Semester Maeth Anifeiliaid - Dadansoddiad porthiant a dogni.  2000 Words  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso priodweddau maethol porthiant da byw

Gwerthuso anghenion maeth da byw a llunio dognau addas

Gwerthuso'n feirniadol arferion sy'n canolbwyntio ar faeth yn y gweithle amaethyddol

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn trafod egwyddorion cyffredinol yn ymwneud a maeth anifeiliaid fferm. Yn benodol, bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys cyfansoddiad a dadansoddiad porthiant, anatomeg treulio, rheolaeth o archwaeth, egni, protein, mwynau a fitaminau. Bydd anghenion maeth esiamplau penodol o anifeiliad fferm hefyd yn cael ei drafod a fe ymdrinnir â dulliau dogni egni, protein a maetholion eraill i dda byw yn ogystal ag anhwylderau maeth ac effaith arferion maeth da byw ar yr amgylchedd.

Cynnwys

15 darlith - Egwyddorion cyffredinol yn ymwneud a maeth anifeiliaid gan gynnwys dadansoddi porthiant, anatomeg treulio, rheolaeth archwaeth, a
egni, protein, mwynau a fitaminau.
10 darlith - Egwyddorion sy'n benodol i dda byw gan gynnwys anatomeg a ffisioleg treulio, anghenion a dogni egni a phrotein, fitaminau a mwynau, porthiant a bwydydd, ac anhwylderau maeth da byw.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn creu dogn ar gyfer anifail o'u dewis. Yn ystod y broses hon, bydd problemau lluosog yn codi y bydd angen cael eu datrys trwy ddewis porthiant yn ofalus i'w gynnwys yn y dogn.
Gallu digidol Bydd angen creu sleidiau PowerPoint ar gyfer cyflwyniad a bydd taenlenni yn cael eu defnyddio ar gyfer dogni
Myfyrdod Bydd myfyrwyr yn myfyrio ar eu profiad lleoliad gwaith ac yn cysylltu profiad â deunydd modiwl a addysgir wrth asesu cyflwyniad
Synnwyr byd go iawn Bydd dadansoddiad porthiant yn cael ei gynnal ar samplau silwair o'r ffermydd prifysgol. Bydd dognau yn cael eu creu ar gyfer anifeiliaid go iawn os y dymunir. Bydd natur realistig y dogn yn cael ei asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5