Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
MOR0510
Teitl y Modiwl
Dulliau Darllen
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Asesu 3,000 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Asesu 3,000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos y gallant ddarllen deunydd ymchwil yn eu maes yn feirniadol
Deall sut i fynd i'r afael ag amrywiaeth o destunau mewn modd priodol
Arfer gwahanol ddulliau darllen wrth ymdrin a ffynonellau
Dangos eu bod yn ymwybodol o seiliau damcaniaethol y gwahanol dduliau hyn
Disgrifiad cryno
Ffocws y modiwl fydd y gwahanol 'ddulliau darllen' a ddefnyddir gan ymchwilwyr wrth eu gwaith, Bydd yn gyfle i ddeall sut mae ymchwilwyr profiadol yn darllen i ategu eu hymchwil. Bydd cyfle i fyfyrwyr weithio ar dasgau a osodir gan yr ymchwilwyr gwadd ac fe'u hanogir i gymhwyso profiad y siaradwyr at eu hymchwil eu hunain.
Cynnwys
- Darllen y llafar: cyflwyniad i ddulliau ymchwil ieithyddol
- Darllen ffilm
- Darllen barddoniaeth
- Testunau a chyfieithu
- Golygu testunau canoloesol
- Darllen y gyfraith
- Darllen Delweddau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y gallu i rannu, trafod a chyflwyno syniadau mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol. |
Datrys Problemau | Datblygir y gallu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o destunau mewn modd priodol |
Gwaith Tim | Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir y gallu i ddarllen deunydd ymchwil yn eu maes yn feirniadol |
Rhifedd | Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am sut y defnyddir gwybodaeth rifyddol mewn testunau, e.e. sut y dewisir y wybodaeth hon a paham. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir y gallu i weithio â thestunau mewn mwy nag un iaith a thestunau a astudir mewn cyfieithiad. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir: - Y gallu i arfer gwahanol ddulliau darllen wrth ymdrin â ffynonellau - Ymwybyddiaeth o seiliau damcaniaethol gwahanol ddulliau darllen |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir: Gallu wrth ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau; Y gallu i ddefnyddio ffynonellau ar lein wrth ymchwilio. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7