Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MOR0120
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfywyr ailsefyll unrhyw asesiad  a fethwyd yn unig  100%
Asesiad Semester Adroddiad beirniadol  ar y sesiynau hyfforddi au gwerth (2000 gair)  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  yn trafod dulliau ymchwil yr ymgeisydd (20 munud)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Bydd myfyrwyr yn medru arddangos rhychwant o sgiliau casglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau a thrwy wahanol gyfryngau.
Byddant yn medru asesu'n feirniadol ystyriaethau moesol a chyfreithiol wrth gynllunio a gwneud eu hymchwil, gan gynnwys hawlfraint, llen-lladrad, preifatrwydd, etc.
Byddant yn medru arddangos rhychwant o sgiliau cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys ysgrifennu (traethodau, erthyglau, adolygiadau ac adroddiadau), darlithio, cyflwyno papurau seminar, siarad ar y cyfryngau, defnyddio'r rhyngrwyd, a sgyrsio'n anffurfiol.
Byddant yn medru deall sut y mae trefnu amser ac adnoddau yn effeithiol a chwblhau tasgau ymchwil yn brydlon ac i safon uchel.
Byddant wedi ystyried rhai o'r sgiliau allweddol sydd angen eu meithrin wrth ddysgu mewn addysg uwch.
Byddant wedi ystyried sut y mae gweithio'n effeithiol fel rhan o dim, a sut i roi cyngor academaidd a'i dderbyn.

Disgrifiad cryno

Darperir cyflwyniad i sgiliau ymchwil ac i agweddau ar ddatblygiad personol er mwyn cymhwyso myfyrwyr at waith ymchwil academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod

Mae'r modiwl yn rhoi arweiniad ynghylch datblygu nifer o sgiliau ymarferol, personol ac academaidd yn ogystal a sut i gywain gwybodaeth arbenigol ym maes llenyddiaeth a hanes a diwylliant Cymraeg, a sut i ysgrifennu traethawd graenus yn y Gymraeg.

Cynnwys

Ymchwil yn y Brifysgol
Y Traethawd Ymchwil
Cywain gwybodaeth
Ysgrifennu Academaidd
Cyflwyno ar Lafar
Cynllunio i'r Dyfodol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir: Gwybodaeth am brosesau cyfathrebu academaidd; Ymwybyddiaeth o strategaethau cyflwyno llafar; Dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ysgrifennu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau cynllunio a rheolau gyrfa mewn academia neu’r tu hwnt.
Datrys Problemau Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am broblemau ymchwil a chanfod y dulliau priodol i’w datrys.
Gwaith Tim Ymdrinnir â gweithio ag eraill mewn sawl gweithdy. Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir Y gallu i reoli amser astudio a defnyddio’r berthynas â’r arolygwr yn effeithiol; Y gallu i fyfyrio yn feirniadol ar eu hymchwil eu hunain.
Rhifedd Ymdrinnir â dulliau ymchwil, gan gynnwys defnyddio dulliau meintiol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir y gallu i egluro’r pwnc ymchwil i gynulleidfa leyg.
Sgiliau ymchwil Datblygir: Ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o ffynonellau sy’n addas i feysydd ymchwil penodol; Gwybodaeth ar sut i gael gafael ar ddeunyddiau cyfreithiol perthnasol sy’n ymwneud â materion megis cyfrinachedd, diogelu data a’r rheolau sy’n ymwneud â defnyddio eiddo deallusol. Ymwybyddiaeth o werth sgiliau rheoli gwybodaeth ar gyfer ymchwil effeithiol; Ymwybyddiaeth o’r elfennau sydd eu hangen i gynllunio a rheoli ymchwil ar gyfer traethawd ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Datblygir gallu wrth ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, e-bost a chronfeydd data electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7