Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
CY25700
Teitl y Modiwl
Astudiaethau Trosi ac Addasu
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Cyfieithu 1600 Words | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio cyfieithu 1600 Words | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos sgiliau cyfieithu priodol.
Gwerthfawrogi cydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol ar gyfieithu.
Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth addasu testunau o'u dewis eu hunain.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i wahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu (llenyddol, technegol, hanesyddol ac ymarferol).
Fe’i rhennir, yn fras, yn ddwy ran. Mewn darlithoedd, dysgir am theorïau cyfredol ynglŷn â chyfieithu, ac am y cyswllt sydd bob amser rhwng cyfieithu, addasu a dehongli. Ymdrinnir â hanes cyfieithu o ieithoedd eraill i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg, a thrafodir y dadleuon o blaid cyfieithu ac yn ei erbyn.
Cynhelir hefyd weithdai ymarferol lle y bydd cyfle i ymarfer technegau trosi ac addasu. Dysgir sut i ddarllen testunau rhyddiaith, ond edrychir hefyd ar gyfryngau megis ffilm, teledu a drama. Trafodir pwysigrwydd adnabod gwahanol deithi’r Gymraeg a’r Saesneg ac amgyffred arwyddocâd cynulleidfa, pwrpas a chyfrwng.
Craidd y modiwl fydd ‘astudiaeth achos’, lle y bydd myfyrwyr yn trosi testun o’u dewis eu hunain o un iaith neu gyfrwng i iaith neu gyfrwng arall. Ceir troi stori fer, er enghraifft, yn sgript ffilm, neu drosglwyddo rhan o destun clasurol i gyd-destun cyfoes.

Cynnwys
Bydd y modiwl yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd a gweithdai ymarferol lle bydd cyfle i fyfyrwyr ymarfer technegau cyfieithu a rhoi damcaniaethau cyfieithu ar waith a ystyrir yn y darlithoedd. Bydd y darlithoedd yn cynnig trosolwg o amrywiaeth o ddamancaniaethau cyfieithu llenyddol a chreadigol gan ystyried y cyd-destun hanesyddol a'r gofynion gwahanol wrth weithio mewn sawl cyfrwng e.e. drama, barddoniaeth.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu'n rhugl gan ddefnyddio Cymraeg graenus a chywir mewn dosbarthiadau ac mewn profion. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn meithrin ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu cyfieithwyr ac addaswyr wrth eu gwaith. |
Datrys Problemau | Hanfod y modiwl fydd trin a thrafod nodweddion dwy iaith a'r cwestiynau syniadol a thechnegol a gyfyd wrth symud rhyngddynt. |
Gwaith Tim | Anogir myfyrwyr i gyfrannu'n effeithiol i weithgareddau'r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir myfyrwyr i werthuso adborth gan gyd-fyfyrwyr a darlithwyr ac i drafod gwaith ysgrifenedig ei gilydd wrth iddo gael ei baratoi. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Amherthnasol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio testun i'w addasu gan ddefnyddio'r llyfrgell a chyfryngau eraill. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr (a'u hyfforddi lle bo hynny'n briodol) i ddefnyddio ffynonellau ar y we er mwyn ategu eu gwaith a'u paratoi ar gyfer byd gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5