Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CC12020
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Raglennu
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad ysgrifenedig  1.5 Awr  30%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ar-lein  1.5 Awr  30%
Asesiad Ailsefyll Un aseiniad  70%
Asesiad Semester Aseiniad sy'n berthnasol i'r cynllun gradd  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio ac egluro mathau a'r defnydd o newidynnau

Defnyddio haniaeth ar broblem ddylunio, gan arwain at cod sy'n defnyddio swyddogaethau ar gyfer gwahanu ac ailddefnyddio swyddogaeth

Dylunio a gweithredu rhaglenni i ddatrys problemau sy'n berthnasol i'w cynllun gradd

Defnyddio cod a llyfrgelloedd trydydd parti fel rhan o'u datrysiad meddalwedd, ac i ddeall perthnasedd trwyddedau meddalwedd a phriodoledd hawliau eiddo deallusol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn darparu gwaelodlin gyffredin o sgiliau rhaglennu i bob myfyriwr ar gynlluniau gradd anrhydedd sengl. Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu ar y sgiliau rhaglennu craidd drwy ddefnyddio llwyfan bach cyfrifiadurol ysgafn megis y llwyfan Arduino a'r amgylchedd datblygu. Bydd y modiwl hwn yn rhoi sylfaen ar gyfer CS12320 Rhaglennu gan ddefnyddio iaith gwrthrych cyfeiriol.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i raglenni gweithdrefnol, sy'n cynnwys y defnydd o newidynnau, amodolau a dolenni a strwythur rhaglen. Bydd Wythnosau 5-10 y cwrs yn cael ei seilio ar waith brosiect, gyda chyfnodau o ddarlithoedd a gwaith ymarferol yn gymysg ystod sesiynau ymarferol. Bydd myfyrwyr yn cael eu dyrannu i grwpiau prosiect yn seiliedig ar eu cynllun gradd, a bydd yn ymdrin yr un deunydd craidd o fewn prosiect sydd wedi'i deilwra i'w cynllun.

Cynnwys

Wythnos 1 - cyflwyniad i'r caledwedd ac yr amgylchedd rhaglennu. Newidynnau a rhifyddeg. Ddarparu
allbwn defnyddwyr.
Wythnos 2 a 3 - Datganiadau Amodol, Cylchoedd ac araeau. Darllen mewnbwn y defnyddiwr. Gweithredwyr C.
Trin gwahanol fathau data (testun vs rhifol)
Wythnos 4 - swyddogaethau a pharamedrau. Gwahanu problem mewn i ddarnau y gellir eu hailddefnyddio.
Wythnos 5 - Rhyngweithiad caledwedd gyda ar-fwrdd swyddogaeth. Storfa barhaus gan ddefnyddio EEPROM.
Wythnos 6-10 - Sesiynau ymarferol sy'n seiliedig ar brosiect yn steil tiwtorial
Bydd y myfyrwyr yn cael eu rhannu'n grwpiau prosiect yn ol cynllun gradd, a bydd y gwaith pob grwp yn
cael eu cynllunio gan academydd sy'n ymwneud yn y maes hwnnw. Bydd prosiectau gwahanol yn cynnwys y
pynciau canlynol, ond mewn trefn sy'n berthnasol i'r prosiect hwnnw.
Dysgu trwy ailadrodd dylunio meddalwedd a'u gweithredu
Y defnydd o structs
Y defnydd o Pointers
Y defnydd o lyfrgelloedd a chod trydydd parti eraill.
Cyfathrebu rhwng dyfeisiau, a chreu protocol cyfathrebu sy'n berthnasol i'w prosiect.
Bydd y prosiectau hyn yn ymdrin a'r un maes craidd ond gyda chymwysiadau wedi'u teilwra yn ol cynllun
gradd.
Wythnos 11 - Darlithoedd Adolygiad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn y gwyddonwyr cyfrifiadurol yn ei wneud, a phrofiad ymarferol yn ymwneud a chynllun gradd y myfyrwyr.
Datrys Problemau Ddatblygwyd wrth ddatrys problemau dylunio
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd ar brotocolau cyfathrebu mewn sesiynau ymarferol y prosiect.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dysgu a pherfformiad yn cael ei wella drwy adborth.
Rhifedd Yn gynhenid i'r pwnc.
Sgiliau pwnc penodol Mae'r modiwl hwn yn rhoi gwerthfawrogiad gwell o bwnc sy'n berthnasol i'r cynllun gradd a dealltwriaeth o wahanol feysydd o wyddoniaeth gyfrifiadurol.
Sgiliau ymchwil Ddatblygwyd drwy ddefnyddio syml o'r cyfrifiadur
Technoleg Gwybodaeth Yn gynhenid i'r pwnc.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4