Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig Y marc pasio yw 50%. 1500 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig Y marc pasio yw 50%. 1500 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o'r dulliau ar gyfer dadansoddi gwytnwch busnes, cadernid a sensitifrwydd
Nodi ffactorau i'w hystyried wrth drafod ochr breifat/bersonol busnes
Disgrifiad cryno
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi cyfrifon busnes i fesur cadernid a gwytnwch y busnes o ran cyfrifeg. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i ddadansoddi sensitifrwydd a sut y gellir dehongli hyn yn effeithiol i roi gwell dealltwriaeth iddynt o sefyllfa bresennol y busnes neu sefyllfa'r busnes yn y dyfodol os nad yw rhagfynegiadau'r farchnad yn ôl y disgwyl ar gyfer menter newydd. Yn olaf, bydd y myfyrwyr yn cael eu arwain drwy amrywiol astudiaethau achos busnes gwledig i dynnu sylw at sut mae busnesau wedi datblygu ac addasu i newid.
Nod
Nod y cwrs hwn yw darparu adnoddau dadansoddol pellach i'r myfyrwyr ar gyfer datblygu cynllun menter busnes, a rhoi astudiaethau achos iddynt o fusnesau cyfredol i'w helpu i nodi sut y gellid cymhwyso'r agweddau hyn.
Cynnwys
1) Dadansoddi Cryfder, Gwydnwch a Sensitifrwydd
2) Agweddau preifat a phersonol ar fusnes
3) Astudiaethau Achos
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr asesiad yn cyflwyno problemau damcaniaethol i'r myfyrwyr eu datrys. |
Gallu digidol | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data i ddatblygu atebion ar gyfer eu hasesiadau. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd disgwyl i fyfyrwyr syntheseiddio gwybodaeth gymhleth |
Sgiliau Pwnc-benodol | Nodi gwahanol fathau o gynlluniau busnes, a gwerthuso manteision a heriau datblygu a gweithredu cynllun hyfyw. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau pellach i'r myfyrwyr wrth ddadansoddi a chreu cynlluniau busnes; byddant yn cael eu hasesu ar eu dealltwriaeth o'r wybodaeth hon. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7