Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 1 Awr Cwis - ar-lein Bydd y cwis yn gofyn i'r myfyrwyr edrych ar wahanol senarios a gwerthuso'r rhain naill ai trwy gyfrifiadau neu drwy ganlyniadau barn penodol. 1 Awr | 100% |
Asesiad Semester | 1 Awr Cwis - ar-lein Bydd y cwis yn gofyn i'r myfyrwyr edrych ar wahanol senarios a gwerthuso'r rhain naill ai trwy gyfrifiadau neu drwy ganlyniadau barn penodol. 1 Awr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cymharu'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i ddadansoddi risg busnes ac ansicrwydd
Nodi cyfleoedd i fuddsoddi gan ddefnyddio techneg addas.
Disgrifiad cryno
Bydd myfyrwyr yn edrych yn gyntaf ar sut y gall arweinwyr busnes reoli newid mewn busnes. Yna byddant yn edrych ar ddwy sgil allweddol sy'n ofynnol ar gyfer datblygu cynlluniau busnes ariannol ar gyfer mentrau newydd - beirniadu risg ac ansicrwydd, ac arfarniad buddsoddi. Mae'r cwrs hwn yn rhan 3 o 4 ar y microgymwysterau Rheoli Busnes ar gyfer Entrepreneuriaid Gwledig.
Nod
Nod y cwrs hwn yw adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu cynllun Busnes eu hun ar gyfer busnes gwledig.
Cynnwys
1) Rheoli Newid
2) Risg ac ansicrwydd
3) Arfarniad Buddsoddi
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr arholiad MCQ yn peri problemau damcaniaethol i'r myfyrwyr eu datrys. |
Gallu digidol | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data i ddatblygu atebion ar gyfer eu arholiad MCQ. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Disgwylir i fyfyrwyr synthieseiddo gwybodaeth gymhleth |
Sgiliau Pwnc-benodol | Mathau, buddion a heriau gwahanol dechnegau wrth arfarnu a werthuso risg, ansicrwydd a buddsoddiadau yn y dyfodol. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd y modiwl hwn yn rhoi mwy o sgiliau dadansoddi a rheoli i'r myfyrwyr ar gyfer datblygu cynllun menter; Byddant yn cael eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o'r wybodaeth hon. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7