Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
BWM3105
Teitl y Modiwl
Entrepreneuriaeth Wledig 2
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 1 Awr Cwis ar-lein Bydd hwn yn gwis ar-lein awtomataidd. 1 Awr | 100% |
Asesiad Semester | 1 Awr Cwis ar-lein Bydd hwn yn gwis ar-lein awtomataidd. 1 Awr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o ddadansoddi ac ysgrifennu cynlluniau busnes pan ddarperir y wybodaeth gywir
Dangos dealltwriaeth o sut y gall busnesau integreiddio i farchnadoedd newydd neu ddatblygu o fewn y farchnad.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yma yn adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau y mae'r myfyriwr wedi'u dysgu yng nghwrs 5 credyd cyntaf y gyfres. Bydd y myfyrwyr yn dysgu hanfodion dadansoddi busnes i'w galluogi i asesu cryfder a gwendidau busnes.
Byddant hefyd yn dysgu am y gwahanol fathau o strwythurau busnes y gellir eu creu wrth ddechrau neu ddatblygu busnes ac yn adran olaf y cwrs byddant yn dysgu am rai o'r cysyniadau y tu ôl i integreiddio cynnyrch mewn i'r farchnad neu ddatblygiad busnes i mewn i ran newydd o'r gadwyn gyflenwi.
Byddant hefyd yn dysgu am y gwahanol fathau o strwythurau busnes y gellir eu creu wrth ddechrau neu ddatblygu busnes ac yn adran olaf y cwrs byddant yn dysgu am rai o'r cysyniadau y tu ôl i integreiddio cynnyrch mewn i'r farchnad neu ddatblygiad busnes i mewn i ran newydd o'r gadwyn gyflenwi.
Nod
Nod y cwrs byr hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau myfyriwr ar sut i adnabod sefyllfa busnes cyfredol a deall sut y gall busnes edrych ar integreiddio ei cynnyrch/cynhyrchion i farchnadoedd newydd neu ddatblygu'r busnes i fwy o feysydd o'i gadwyn(au) cyflenwi.
Cynnwys
1) Strwythurau busnes
2) Dadansoddiad Busnes
3) Integreiddio
2) Dadansoddiad Busnes
3) Integreiddio
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr arholiad MCQ yn peri problemau damcaniaethol presennol i'r myfyrwyr eu datrys. |
Gallu digidol | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data i ddatblygu atebion ar gyfer eu harholiad MCQ. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Disgwylir i fyfyrwyr syntheseiddio gwybodaeth gymhleth |
Sgiliau Pwnc-benodol | Arfarniad a gwerthuso gwahanol ddulliau o sdadansoddi busnes. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd y cwrs hwn yn darparu'r myfyrwyr a'r sgiliau angenrheidiol i wneud dewis gwybodus ar berfformiad busnes a sut i fanteisio ar gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7