Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
BG36620
Teitl y Modiwl
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
BR36620 BR36620 is the English medium version of this module.
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Nodiadau cyflwyno yn seiliedig ar sleidiau - seminar y prosiect grwp | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig - Adroddiad unigol wedi’i seilio - Adroddiad 6,000 gair i’w asesu, o fath ac erbyn dyddiad i’w cytuno gyda chydlynydd y modiwl. ar y prosiect grwp (3000 gair) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig - wedi’i seilio ar y prosiect grŵp (3000 gair). Dadansoddi data’r prosiect dosbarth (3000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig - Dadansoddi data’r prosiect dosbarth (3000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig - Adroddiad unigol wedi’i seilio - Seminar y prosiect grŵp ar y prosiect grwp (3000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad - Seminar y prosiect grwp prosiect dosbarth (2000 gair) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Trafod problemau amserol a pherthnasol ym meysydd ecoleg, cadwraeth a gwyddor amgylcheddol.
2. Dangos medrusrwydd wrth adnabod y prif rywogaethau a’r elfennau biotig yn y cynefinoedd lle y caiff y cwrs maes ei ddysgu.
3. Dangos medrusrwydd mewn amrywiaeth o dechnegau casglu/ dadansoddi data yn y maes.
4. Cynllunio strategaethau ymchwil i gasglu a dadansoddi data sy’n berthnasol i’r cwestiynau ymchwil penodedig.
5. Cyfathrebu casgliadau’r ymchwil trwy lunio adroddiadau ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Trwy ddadansoddi themâu perthnasol ac amserol ym meysydd ecoleg, cadwraeth a gwyddor amgylcheddol, bydd y modiwl yn rhoi sylw i’r materion canlynol:
- Cymhwyso dulliau labordy damcaniaethol, technegol a/neu wyddonol i’r amgylchedd maes mwy cymhleth ac afreoledig er mwyn deall sut y mae hinsawdd a daeareg lleoliad maes penodol yn dylanwadu ar brosesau creiddiol o safbwynt ecoleg a’r defnydd o dir.
- Llunio cwestiynau ymchwil ecolegol, a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i’w datrys/ateb trwy brofi rhagdybiaethau, cynllunio arbrofion trylwyr, a chasglu, dadansoddi a dehongli data.
- Ystyried, lle bo’n briodol, agweddau logistaidd (gan gynnwys diogelwch) a moesegol y prosesau ymchwil hyn.
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n greiddiol i ymchwil maes ym meysydd ecoleg/gwyddor amgylcheddol, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, cadw cofnodion, adrodd/cyfathrebu data arbrofion a sgiliau adnabod planhigion/ffyngau.
Cynnwys
Bydd amcanion y modiwl yn cael eu cyflawni drwy waith maes, a ategir gan nifer cyfyngedig o ddarlithoedd a seminarau (e.e. dehongli/dadansoddi data) yn ystod cwrs maes preswyl. Gall y pynciau a drafodir mewn unrhyw flwyddyn benodol amrywio gan ddibynnu ar leoliad y cwrs maes, amodau’r tywydd a’r trefniadau staffio, ond byddant yn cynnwys themâu megis:
Technegau ar gyfer dadansoddi planhigion
Effaith bodau dynol ar gymunedau biolegol
Agweddau o newidiadau amgylcheddol/hinsoddol a phrosesau olyniaethol
Cynllunio a chynnal prosiectau ymchwil sy’n seiliedig ar waith maes
Technegau ar gyfer dadansoddi planhigion
Effaith bodau dynol ar gymunedau biolegol
Agweddau o newidiadau amgylcheddol/hinsoddol a phrosesau olyniaethol
Cynllunio a chynnal prosiectau ymchwil sy’n seiliedig ar waith maes
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, trwy drafod y data sy’n deillio o’u gwaith maes mewn grwpiau, trwy lunio adroddiadau a thrwy wneud cyflwyniadau llafar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | N/A |
Datrys Problemau | Dadansoddi samplau a data a chyfosod gwybodaeth, a asesir drwy’r adroddiadau. |
Gwaith Tim | Datblygir yr elfen hon trwy osod y myfyrwyr mewn grwpiau bach yn ystod y gwaith maes. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd eu nodiadau maes eu hunain, am ddatblygu strategaethau effeithiol i weithio mewn tim, ac am ddatblygu dulliau realistig ac effeithlon o gasglu data yn y maes o fewn cyfyngiadau ehangach amserlen y cwrs maes. |
Rhifedd | Lle bo’n briodol, bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant yn y technegau ystadegol sydd eu hangen i ddadansoddi eu data maes. |
Sgiliau pwnc penodol | Adnabod planhigion/ffyngau trwy ddefnyddio allweddau. |
Sgiliau ymchwil | Gofynnir i’r myfyrwyr gwblhau nifer o brosiectau ymchwil a chynllunio/cyflawni o leiaf un a fydd yn cynnwys: canfod problemau, cynllunio ymchwil, a chaffael, dadansoddi, cyflwyno a dehongli data. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd y myfyrwyr yn llunio adroddiadau ysgrifenedig, dadansoddi data a chwilio am destunau/gwybodaeth yn electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6