Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG36440
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb a'r rheini a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%
Asesiad Semester Traethawd hir  (8,000 gair)  80%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  (10 munud)  10%
Asesiad Semester Dyddlyfr x 1  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.

2. Dynodi a defnyddio technegau priodol ar gyfer cynllunio astudiaethau a dadansoddi data.

3. Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.

4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a llunio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

5. Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y data, y canlyniadau a’r casgliadau mewn traethawd ymchwil.

6. Dynodi a chyflwyno themau allweddol y traethawd hir ar ffurf cyflwyniad llafar.

7. Dangos, a myfyrio ynghylch, proses a chynnydd eu hymchwil.

Disgrifiad cryno

Mae modiwl y traethawd estynedig yn brofiad uchafbwyntiol ar y lefel raddedig sy’n meithrin sgiliau a gwybodaeth y myfyrwyr. Bydd y modiwl yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil manwl ar bwnc sy’n berthnasol i’w gradd neu eu diddordebau. Bydd llawer o’r prosiectau’n seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes; gallai eraill gynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol yn seiliedig ar ffynonellau data eilaidd. Bydd eraill yn cynnwys dadansoddi data o destunau cyhoeddedig. Bydd yr holl brosiectau, beth bynnag eu ffurf, yn golygu bod rhaid i fyfyrwyr weithio’n annibynnol dan arweiniad goruchwyliwr, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi data, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno’r cyfan ar ffurf traethawd estynedig.

Cynnwys

Bydd yna amrywiaeth eang ym mhwyslais y traethodau estynedig. Mae'r holl brosiectau'n ddarostyngedig i'r un rheoliadau a rhaid iddynt geisio cyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gynnal cyswllt rheolaidd gyda'u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semestrau) i drafod cynnydd eu gwaith.

Bydd darlith gyflwyniadol yn y semester cyntaf yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio ar gyfer y Traethawd. Yn yr ail semester, cynhelir cymorthfeydd galw heibio wythnosol dewisol i gynnig cyngor ar agweddau penodol o baratoi'r Traethawd Estynedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio, a asesir ym mhob aseiniad. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio'r elfennau ysgrifenedig. Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu wrth greu’r seminar ymchwil.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil newydd.
Datrys Problemau Mae'r sgil hwn yn elfen allweddol o'r modiwl, a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddadansoddi data cynradd a/neu eilaidd yn feirniadol, dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl a defnyddio meddwl creadigol i ddatblygu datrysiadau priodol.
Gwaith Tim Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn er y bydd gofyn i rai myfyrwyr weithio gydag aelodau eraill o grŵp labordy neu grŵp ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr traethawd hir eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn dyfeisio cynlluniau gweithredu personol i gynnwys amcanion tymor byr a thymor hir, ynghyd ag adolygu a monitro cynnydd, a diwygio cynlluniau gweithredu fel bo'n briodol i wella perfformiad cyffredinol, a asesir drwy’r Dyddlyfr.
Rhifedd Bydd y modiwl hwn yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth fathemategol gyffredinol ynghyd a'i defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol (e.e. mesur, pwyso a chymhwyso fformiwlau) yn ol natur y prosiect. Bydd myfyrwyr hefyd yn caffael neu ddehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd unrhyw sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir yn dibynnu ar natur y prosiect ymchwil e.e. hyfforddiant mewn dilyniannu a dadansoddi DNA, cynllunio holiadur, arsylwi ymddygiad ac ati.
Sgiliau ymchwil Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n gofyn bod myfyrwyr yn deall ac yn gwerthuso amrywiaeth o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil, cynllunio ac ymgymryd ag ymchwil a llunio adroddiad academaidd (traethawd estynedig).
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data a pharatoi’r elfennau ysgrifenedig a llafar. Asesir y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn y traethawd hir a’r cyflwyniad llafar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6