Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad data 2000 o eiriau | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad 10 Munud | 40% |
Asesiad Semester | Adroddiad data 2000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad 10 Munud | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf a chyflwyniad yn dilyn y daith astudio amaethyddol
Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau
Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd
Nodi ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol
Nodi ffactorau sy'n dylanwadu ar systemau cynhyrchu ac asesu eu heffaith ar reolaeth a pherfformiad busnes
Dangos dealldwriaeth o gadwyn gyflenwi amaethyddol
Gosod ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
Dehongli a defnyddio data
Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig ar y modiwl yw cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, synthesis data ac asesu a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn mynd ar daith astudio wythnos o hyd yn Nwyrain Lloegr. Yn dilyn yr ymweliad bydd y myfyrwyr yn gwneud cyflwyniad a fydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn grŵp a chyflwyno.
Cynnwys
Fydd yr modiwl yma yn cael i dysgu trwy gweithgareddau ac darlithoedd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Bydd myfyrwyr yn weithio fel rhan o grwp yn ystod yr gweithgareddau ac yn dablygu sgiliau cyfarthebu. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Yn ystod y modiwl, bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol gadwyni cyflenwi a systemau cynhyrchu, yn enwedig Dwyrain Lloegr |
Synnwyr byd go iawn | Fydd myfyrwir yn gael sesiwn fydd yn ganolbwyntio ar gyrfa a beth sydd yn posib i ein myfyrwir ar ol prifysgol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4