Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad 1.5 Awr | 50% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad 1.5 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Poster Poster a chyflwyniad wedi'i recordio 5 Minutes | 50% |
Asesiad Semester | Poster Poster a chyflwyniad wedi'i recordio 5 Minutes | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Rhoi disgrifiad manwl o strwythur y gell, gan nodi swyddogaethau pob rhan.
Adnabod a disgrifio moleciwlau biolegol, gan gysylltu eu strwythur a'u swyddogaeth.
Perfformio cyfrifiadau sy'n berthnasol i ddulliau a ddefnyddir ar gyfer gweithio gyda chelloedd
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg o strwythur a swyddogaeth celloedd. Trafodir celloedd procaryotig ac enghreifftiau amrywiol o gelloedd ewcaryotig. Disgrifir yn fanwl y biomoleciwlau a'r organynnau sy'n bwysig yn strwythur a swyddogaeth celloedd. Datblygwyd sgiliau ymarferol a meintiol yng nghyd-destun dulliau ar gyfer astudio bioleg celloedd.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cynnwys trafodaeth ar strwythur celloedd sy'n amlygu rôl pilen fel yr egwyddor trefnu. Archwilir gwahanol fathau o gelloedd a'r berthynas rhwng strwythurau a swyddogaethau. Bydd trafodaeth am ddosbarthiadau moleciwlau biolegol sy'n ffurfio pob math o fywyd: asidau niwclëig, proteinau, lipidau a charbohydradau. Cyflwynir ensymau a llwybrau allweddol metaboledd. Trafodir signalau celloedd a chellraniad yng nghyd-destun ffurfio meinweoedd ac organau. Atgyfnerthir y cysyniadau damcaniaethol trwy waith ymarferol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Delio â phwysau terfyn amser |
Cydlynu ag erail | Bydd angen i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd mewn gwersi ymarferol a gweithdai |
Cyfathrebu proffesiynol | Dylid ystyried y gynulleidfa fwriadedig yn ofalus ar gyfer yr aseiniad |
Datrys Problemau Creadigol | Gwaith labordy a chyfrifiadau yn datblygu'r sgil hon |
Gallu digidol | Datblygir sgiliau wrth ddefnyddio meddalwedd ar gyfer yr asesiadau |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Ymchwil ar gyfer aseiniadau - gwerthuso a dewis ffynonellau |
Myfyrdod | Dylid defnyddio adborth i wella gwaith arall |
Sgiliau Pwnc-benodol | Mae myfyrwyr yn cael eu hannog a'u cynorthwyo i gysylltu cynnwys y modiwl â'u cynllun gradd dewisol |
Synnwyr byd go iawn | Mae'r aseiniad yn datblygu y sgiliau canlynol: cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, cymryd penderfyniadau, addasu, cynllunio a threfnu, annibyniaeth, cydnabod rhagfarn a cham wybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4