Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adolygiad Gritigol (2000 o eiriau). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ar opsiynau dylunio gnwd/system ar gyfer system AAR (2500 o eiriau). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Stori Ddigidol (3 munud). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Fforymau Arlein (1200 o eiriau). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 20% |
Asesiad Semester | Fforymau Arlein (1200 o eiriau) | 20% |
Asesiad Semester | Adolygiad Gritigol (2000 o eiriau) | 30% |
Asesiad Semester | Adroddiad ar opsiynau dylunio gnwd/system ar gyfer system AAR (2500 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Stori Ddigidol (3 munud) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Esbonio heriau'r presenol a'r dyfodol o gynhyrchu bwyd y gall technolegau AAR helpu i'w datrys.
2. Disgrifio cyfyngiadau cyfredol technoleg AAR o ran cynhyrchu bwyd.
3. Cymharu manteision ac anfanteision technolegau AAR ar gyfer gwahanol gnydau a lleoliadau.
4. Trafod bioleg planhigion sy'n berthnasol i AAR.
5. Asesu materion bioddiogelwch mewn gwahanol systemau AAR.
6. Nodi cyfleoedd ar gyfer cydleoli AAR gyda diwydiant ar gyfer defnyddio adnoddau ac effeithlonrwydd ynni.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd myfyrwyr yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn AAR ynghyd â datblygu dealltwriaeth o fioleg planhigion a ffisioleg sydd ei angen ar gwmnïau amaeth-dechnoleg i ddatblygu AR addas. Bydd yn ymdrin â buddion a chyfyngiadau ystod o amgylcheddau a reolir a'u potensial i wella diogelwch bwyd, gan dynnu sylw at ymchwil berthnasol a chynnwys astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r sectorau amaeth-dechnoleg.
Cynnwys
Rhesymau AAR a buddion posibl;
Enghreifftiau o dechnolegau AAR a rhestr termau;
Systemau AAR cyfredol a'u potensial yn y dyfodol;
Bioleg Planhigion wedi'i gymhwyso i AAR (e.e. gwyddoniaeth rhyngweithio rhwng planhigion a golau, defnyddio maetholion, straen ac ati);
Bioleg foleciwlaidd (Prosesau biocemegol - moleciwlaidd a cellog);
Ffisioleg (Swyddogaethau biolegol);
Rheoli straen amgylcheddol mewn planhigion a'r goblygiadau ar gyfer maeth dynol;
Prosesau/arferion garddwriaethol/agronomeg a gymhwysir i systemau AAR;
Bioddiogelwch (plâu, pathogenau, afiechydon a rheolyddion) mewn systemau AAR;
Systemau arallgyfeirio ffermydd, tyfu trefol a hybrid;
Cydleoli gyda diwydiant ar gyfer defnyddio adnoddau ac effeithlonrwydd ynni, e.e. gwres, maetholion;
Datrysiadau economi gylchol ar gyfer systemau cynhyrchu AAR
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr allu mynegi eu hunain yn briodol yn eu haseiniadau a thrafod pynciau perthnasol â'i gilydd yn y fforymau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn darparu'r ymchwil ddiweddaraf i'r myfyrwyr i amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir a thechnolegau cysylltiedig i'w helpu i ddarparu'r wybodaeth/cyngor diweddaraf i'w cydweithwyr / cleientiaid yn y diwydiannau amaeth-dechnoleg; cânt eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o'r wybodaeth hon ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n benodol ar ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa. |
Datrys Problemau | Defnyddir postiadau fforwm ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy’n cyflwyno problemau damcaniaethol i’r myfyrwyr eu datrys. Bydd yr astudiaeth achos hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gynnig ffyrdd i newid a gwella ffrydiau gwastraff presennol. |
Gwaith Tim | Bydd fforymau ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr drafod ymysg ei gilydd i ddatblygu consensws barn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad i fyfyrwyr weld lle y gellid gwneud gwelliannau cyn aseiniadau dilynol. Bydd asesiad ffurfiannol ysgrifenedig yn rhoi cyfle di-risg cynnar i gael adborth a bydd 3 fforwm wedi'u hasesu yn olynol a fydd yn cael eu marcio a bydd adborth yn cael ei ddarparu mewn pryd i gynorthwyo perfformiad yn y fforwm nesaf. Bydd CADd ffurfiannol yn galluogi myfyrwyr i weld lle mae angen iddynt ganolbwyntio eu hastudiaeth hunangyfeiriedig. |
Rhifedd | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data yn eu haseiniadau a bydd disgwyl iddynt egluro neu ddangos tystiolaeth i gefnogi honiadau o enillion ariannol, lleihau gwastraff, ac ati yn yr astudiaeth achos. |
Sgiliau pwnc penodol | Mathau, buddion a heriau AAR. Gwerthuso'r gwahanol ddulliau. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â hunan-astudio dan gyfarwyddyd, felly byddant yn datblygu eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth. Bydd adborth o aseiniadau yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd data cyhoeddi gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7