Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 2 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 1 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso'r feirniadol ddatblygiad llythrennedd mewn plant ifainc o fewn i fframwaith penodol.
Trafod yn feirniadol oblygiadau datblygiad llythrennedd ar gyfer dysgu ac addysgu.
Archwilio'r feirniadol y rhesymau dros gwricwlwm yn seiliedig ar lenyddiaeth mewn ysgolion babanod.
Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ganologrwydd y broses iaith a llythrennedd yn ei rol gyfryngu ar gyfer yr athro a'r plentyn ifanc. Mae'r archwilio swyddogaeth llythrennedd mewn amryw ddiwylliannau ac yn ystyried y sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygu iaith a llythrennedd mewn plant ifainc.
Cynnwys
2. Polisi ac Ymarfer ar Lythrennedd: Cymru a Lloegr / Arolygu a gwerthuso
3. Dechreuad llythrennedd: Cefnogi cyfathrebu plant / Amgylchedd sy'n llawn llythrennedd (Cyfnod Sylfaen)
4. Partneriaethau i hyrwyddo llythrennedd / Gweithio gyda rhieni a gofalwyr
5. Addysgu a dysgu darllen / Asesu darllen
6. Addysgu a dysgu ysgrifennu / Asesu ysgrifennu
7. Llenyddiaeth plant: llyfrau lluniau i Harry Potter / Defnyddio llenyddiaeth plant
8. Yr ystafell ddosbarth ddigidol
9. Llythrennedd amlfodd
10. Anawsterau datblygu llythrennedd / Astudiaethau achos
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn. |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol. |
Gwaith Tim | Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad. |
Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar. |
Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5