Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Portffolio sgiliau allweddol 1200 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect gwaith grŵp: a) Taflen A4, wedi ei greu yn rhan o dîm, yn trafod sut i ddatblygu 'sgil allweddol' ar gyfer myfyrwyr is-raddedig (25% o farc y prosiect). b) Gwerthusiad 1,000 o eiriau o arferion gwaith grŵp (75% o farc y prosiect) | 50% |
Asesiad Semester | Portffolio sgiliau allweddol 1200 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Prosiect gwaith grŵp: a) Taflen A4, wedi ei greu yn rhan o dîm, yn trafod sut i ddatblygu 'sgil allweddol' ar gyfer myfyrwyr is-raddedig (25% o farc y prosiect). b) Gwerthusiad 1,000 o eiriau o arferion gwaith grŵp (75% o farc y prosiect) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos cymhwysedd mewn sgiliau academaidd a throsglwyddadwy allweddol.
Nodi ffyrdd o wella dysgu personol.
Deall a gwerthuso'r materion allweddol sy'n ymwneud a gwaith grwp.
Deall egwyddorion allweddol cyfathrebu ac arweinyddiaeth.
Dangos y gallu i weithio'n effeithiol ag eraill.
Bod yn hunan-fyfyriol o safbwynt sgiliau astudio a sgiliau trosglwyddadwy.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn dechrau trwy amlinellu'r prif sgiliau astudio y bydd gofyn i'r myfyrwyr eu datblygu. Bydd y rhain yn cynnwys cyfeirio, ysgrifennu traethodau, defnyddio ffynonellau academaidd, rheoli amser, gwerthuso'n feirniadol, cyflwyniad i ymchwil a defnydd effeithiol a derbyniol o ddeallusrwydd artiffisial. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar sgiliau trosglwyddadwy allweddol, gan gynnwys gweithio mewn grŵp, arweinyddiaeth, a chyfathrebu (a fydd yn berthnasol i DPP a chynllunio gyrfaoedd y myfyrwyr).
Nod
Galluogi myfyrwyr i weithio'n effeithiol mewn grwpiau.
Cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy allweddol i'r myfyrwyr.
Galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau hunan-fyfyrio a gwerthuso.
Cynnwys
- Cyfeirnodi a Llên-ladrad
- Dod o hyd i ffynonellau academaidd a'u gwerthuso, a defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn foesegol ac yn effeithlon
- Ysgrifennu academaidd a chynllunio traethodau
- Meddwl yn feirniadol a gwerthuso
- Sylfeini Ymchwil
- Theori gwaith grŵp
- Gwaith grŵp ar waith
- Sgiliau proffesiynol a chyflogadwyedd
- Sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ac arwain
- Ymarfer dysgu
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Datblygir sgiliau cyflwyno llafar trwy drafodaethau yn y dosbarth a chyflwyniad a asesir. Datblygir sgiliau ysgrifennedig drwy'r aseiniadau. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau i gyfathrebu i wahanol gynulleidfaoedd trwy ddatblygu'r daflen. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, gwaith tim, cyfathrebu, a sgiliau gwerthuso. Bydd y rhain yn cael eu hymgorffori i'r darlithoedd a'r seminarau ac yn cael eu hasesu fel agwedd greiddiol o'r modiwl. |
Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi ffynonellau a thestunau amrywiol fel rhan o'u gwaith portffolio a'r prosiect grwp. Bydd gweithgareddau datrys problemau yn rhan o'r dalithoedd. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i weithio mewn grwpiau fel rhan o aseiniad y prosiect gwaith grwp. Hefyd, bydd pob seminar yn cynnwys elfen o waith grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd gofyn i'r myfyrwyr arwain eu hastudiaethau eu hunain o safbwynt y darllen ehangach a pharatoi ar gyfer yr aseiniad. Bydd mynychu'r sesiynau yn gwella ystod o sgiliau dysgu. Bydd y myfyrwyr yn myfyrio ynglyn a gwellianau i'w dysgu eu hunain mewn aseiniadau portffolio a chyflwyniadau. |
Rhifedd | Mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dadansoddi data rhifyddol wrth ymchwilio ar gyfer eu haseniadau. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i gyfleu arferion a chyd-destunau addysgiadol i gynulleidfaoedd/dysgwyr amrywiol. Asesir hyn yn rhannol trwy'r daflen sgiliau astudio a ddatblygir. Fel rhan o'r sesiynau i baratoi ar gyfer arholiadau, edrychir ar gyd-destunau modiwlau eraill. |
Sgiliau ymchwil | Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i wneud ymchwil annibynol ar gyfer eu haseiniadau. Ceir sesiynau ar sut i gasglu gwybodaeth yn effeithiol o fewn y modiwlau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd y myfyrwyr yn datblygu cymhwysedd wrth ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig trwy ffynonellau llyfryddiaethol ac ar y we. Byddant hefyd yn dysgu sut i ddefnydio deallusrwydd artiffisial mewn modd effeithiol a chywir. Bydd aseiniadau 2 a 3 yn cael eu cyflwyno ar ffurf dogfennau a luniwyd ar brosesydd geiriau; bydd angen defnyddio meddalwedd dylunio priodol ar gyfer aseiniad 3. Bydd angen defnyddio PowerPoint ar gyfer aseiniad 4. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4