Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd Myfyriol 1500 o eiriau | 30% |
Semester Assessment | Arolwg Ymchwil 3000 o eiriau | 40% |
Semester Exam | Cyflwyniad llafar 10 Munud | 30% |
Supplementary Assessment | Arolwg Ymchwil 3000 o eiriau | 40% |
Supplementary Assessment | Traethawd Myfyriol 1500 o eiriau | 30% |
Supplementary Exam | Cyflwyniad llafar 10 Munud | 30% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu llafar a dieiriau mewn ymgynghoriad milfeddygol ac yn dangos y sgiliau hyn
Datblygu sgiliau clinigol sylfaenol sy'n ymwneud ag archwilio rhywogaethau rhagnodedig yn glinigol
Deall pwysigrwydd meddygaeth filfeddygol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac mae'n berthnasol i bractis milfeddygol clinigol
Dangos dull systematig o weithio drwy broblemau biofoesegol gan ddefnyddio fframwaith model.
Gallu dangos sut y gellir defnyddio cynnwys modiwl i leoliadau clinigol a sut mae'n integreiddio â modiwlau eraill
Brief description
Mae Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth yn rhedeg drwy gydol Blwyddyn 2 ac mae'n bwrw ymlaen â'r themâu a gwmpaswyd ym mlwyddyn 1 sy'n ymwneud â chyfathrebu ym maes milfeddygaeth, safonau proffesiynol, moeseg a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Bydd Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu'ch dealltwriaeth o'r rhan y mae milfeddygon yn ei chwarae mewn ymchwil, llunio cynnig ymchwil a sut i ddadansoddi data, a'i ddehongli a'i gyfleu. Ar ben hynny, fe ddysgwch fwy am yr ystod o sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd milfeddygol.
Content
Mae ar Filfeddygon angen ystod o sgiliau proffesiynol er mwyn llwyddo yn yr ystod eang o swyddi sydd ar gael ledled y maes. Mae'r modiwl hwn yn parhau â'ch datblygiad proffesiynol drwy ddarparu mwy o hyfforddiant mewn sgiliau ymarferol clinigol a chyfathrebu, drwy drafod yr heriau moesegol ym maes milfeddygaeth a thrwy feithrin eich dealltwriaeth am sut mae arbrofion ymchwil yn cael eu dylunio, eu dadansoddi a'u cyfleu gan ymchwilwyr milfeddygol er mwyn gwella iechyd anifeiliaid. Fe wneir hyn drwy sesiynau grŵp lle y dysgir ar sail problemau, yn ogystal â gweithdai, darlithoedd, cyflwyniadau a chynnig ymchwil a arweinir gan y myfyriwr a fydd yn cyfuno gwahanol agweddau a ddysgir drwy'r modiwl.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Adaptability and resilience | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiadau cau. Nid asesir yr agwedd hon. |
Co-ordinating with others | Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon. |
Creative Problem Solving | Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol a gwaith cwrs yn golygu datrys problemau. |
Critical and analytical thinking | Bydd y gwaith cwrs yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn y gwaith cwrs. |
Digital capability | Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at y gwaith cwrs. |
Professional communication | Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn y gwaith cwrs, a chyfathrebu ar lafar yn y cyflwyniad llafar, lle y'u hasesir. Rhoddir adborth ar hyn. |
Real world sense | Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Bydd agweddau ar hyn yn cael eu dysgu a'u hasesu. |
Subject Specific Skills | Yn ystod y modiwl fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol a biolegol; ac asesir hynny yn y gwaith cwrs. |
Notes
This module is at CQFW Level 5