Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1 (i deitl newydd) 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2 (i deitl newydd) 3000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 3000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 1 2000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Datblygu corff systemataidd a datblygiedig o wybodaeth am hanes y cyfryngau yng Nghymru
2. Datblygu gwybodaeth am dadleuon cyfoes am ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru
3. Deall, cymharu a dadansoddi damcaniaethau am hanes ffilm a'r cyfryngau, a natur ffilm a chyfryngau cyfoes yn gritigol
4. Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn asesu'n feirniadol y problemau cyfoes sy'n wynebu ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys ffilm, teledu, y wasg, a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd ddarlledu hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydliadau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall y sialensiau sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.
Cynnwys
Hanes a Chyd-destun
Damcaniaethau am y cyfryngau yng Nghymru
Sefydliadau Prydeinig: BBC ac ITV
Ffilmiau Amatur Cynnar
Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
S4C
Y Sector Annibynnol: Teliesyn
Y Wasg
Y Rhyngrwyd
Blogiau a Gwe 2.0
Seminarau
Fe fydd y seminarau yn dilyn yr un patrwm a'r uchod.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol i'r modiwl |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6