Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
TC21420
Teitl y Modiwl
Ymchwil Creadigol Ymarferol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o Ddeunydd Ymchwil (Cyfwerth â 2,000 o eiriau) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cymhwysiad Ymarferol Gall y Cymhwysiad Ymarferol fod yn: - Sgript ar gyfer Unrhyw Gyfrwng (Hyd at 20 munud o amser perfformio) - Ffilm neu Gyflwyniad Cyfryngol (Rhwng 5 a 10 munud o hyd) - Perfformiad neu Gyflwyniad Byw (Hyd at 15 munud) - Traethawd ysgrifenedig (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Amlinelliad Ymchwil Cychwynnol Hyd at 1,000 o eiriau. | 20% |
Asesiad Semester | Cymhwysiad Ymarferol Gall y Cymhwysiad Ymarferol fod yn: - Sgript ar gyfer Unrhyw Gyfrwng (Hyd at 20 munud o amser perfformio) - Ffilm neu Gyflwyniad Cyfryngol (Rhwng 5 a 10 munud o hyd) - Perfformiad neu Gyflwyniad Byw (Hyd at 15 munud) - Traethawd ysgrifenedig (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | 'Pitch' Ymchwil Cychwynnol 10 Munud | 20% |
Asesiad Semester | Portffolio o Ddeunydd Ymchwil (Cyfwerth â 2,000 o eiriau) | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Magu sgiliau ymchwil, gan ddatblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer ymchwilio gwahanol gynyrchiadau a digwyddiadau perfformio damcaniaethol.
Adnabod cyd-destunau a chyfleoedd ymchwil priodol ar gyfer ystod o wahanol gynyrchiadau.
Adlewyrchu ar effeithiolrwydd gwahanol ddulliau ymchwil, gan werthuso llwyddiannau’r dulliau hynny wrth baratoi’r aseiniadau.
Cymhwyso canfyddiadau’r broses ymchwil er mwyn gwireddu cysyniad creadigol, gan allu mynegi’r berthynas rhwng yr ymchwil â’r cysyniad terfynol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn fydd cynnig cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu strategaethau a sgiliau ymchwilio ar gyfer ystod o wahanol allbynnau creadigol. Fe fydd y rhain yn cynnwys cyrchu a phrosesu gwybodaeth a deunyddiau hanesyddol, artistig a synhwyrus, ac yn trafod y math o ymchwil a wneir o flaen llaw wrth baratoi cynhyrchiad, ac wrth ei gloriannu a’i werthuso. Rhoddir sylw hefyd i gymhwyso a threfnu’r wybodaeth fel sail ar gyfer creu perthynas â chynulleidfa.
Ar ddechrau’r semester, bydd cydgysylltydd y modiwl yn amlinellu prosiect cynhyrchu damcaniaethol ar thema benodol, ac yn awgrymu ffynonellau gwybodaeth a dehongli i’r myfyrwyr. Disgwylir i’r myfyrwyr ddefnyddio’r ffynonellau hyn, ac ymestyn cwmpas y gwaith ymchwil yn ôl eu gallu a’u dehongliad neilltuol eu hunain o’r prosiect cynhyrchu.
Yn ystod wythnosau cynnar y modiwl, gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno ‘pitch’ ymchwil sylfaenol a fydd yn cynnig amlinelliad bras o faes eu hymchwil hyd at hynny, a hefyd yn rhoi amcan o’r modd y maent yn bwriadu mynd ati i ddehongli a chymhwyso’r deunydd hwnnw yn ymarferol. Erbyn diwedd y modiwl, gofynnir iddynt gynhyrchu allbwn creadigol ymarferol, ac i ystyried addasrwydd y cyfrwng dethol mewn perthynas â’r gwaith ymchwil a gwblhawyd yn ystod y semester.

Cynnwys
Gosodir tasgau ymchwil ar derfyn pob sesiwn, a bydd disgwyl i fyfyrwyr rannu eu gwaith yn y sesiwn nesaf.
Darlith 1: Cyflwyno’r Prosiect Cynhyrchu Damcaniaethol a Datblygu Themâu’r Prosiect
Darlith 2: Ffynonellau Gwybodaeth a Darganfod Methodolegau Ymchwil
Darlith 3: Ymarfer Creadigol a Hanesyddiaeth
Darlith 4: Ymarfer Creadigol a’r Archif
Darlith 5: Adolygiadau a Beirniadaeth
Darlith 6: Gwleidyddiaeth a Pholisïau Cyllido
Darlith 7: Ymchwilio Cynulleidfaoedd
Darlith 8: Marchnata
Darlith 9: Rhannu Casgliadau Prosesau Ymchwil
Darlith 10: Cymhwyso a Pharatoi ar gyfer y Cyflwyniad
Gall trefn a chynnwys y sesiynau amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â chynnwys a themâu’r cynhyrchiad damcaniaethol, ynghyd ag amcanion creadigol prosiectau unigol.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol Siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol (gan gynnwys cyflwyno a thrafod) Gwrando’n effeithiol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau, credoau a nodweddion personol mewn perthynas â’r cwrs /dilyniant gyrfa Cynllunio a pharatoi ar gyfer cwrs/gyrfa yn y dyfodol Marchnata sgiliau, profiad a chyflawniad yn effeithiol ar bapur ac yn bersonol Deall a defnyddio amrywiaeth o strategaethau chwilio am swyddi |
Datrys Problemau | Dynodi problemau Dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl Datblygu dulliau meddwl creadigol wrth ddatrys problemau Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posibl Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem |
Gwaith Tim | Deall cysyniad dynameg grŵp Cyfrannu at sefydlu nodau’r grŵp Cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grŵp Chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp Ymarfer sgiliau trafod a pherswadio Gwerthuso gweithgareddau grŵp a’ch cyfraniad eich hun |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o’ch arddulliau dysgu eich hun, eich hoffterau ac anghenion personol a rhwystrau i ddysgu Dyfeisio a chymhwyso strategaethau dysgu a hunan-reoli realistig Dyfeisio cynllun gweithredu personol i gynnwys nodau tymor byr a thymor hir Adolygu a monitro cynnydd, gan ddiwygio’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella’r perfformiad cyffredinol |
Rhifedd | Canfod a dehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol Ymdrin â phroblemau sy’n cynnwys rhifau |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu sgiliau ac ymwybyddiaeth sy’n benodol i’r maes, a’i berthynas â byd gwaith. |
Sgiliau ymchwil | Deall amrywiol ddulliau ymchwil Cynllunio a chynnal ymchwil Llunio adroddiadau sy’n briodol yn academaidd Gwerthuso dulliau, cynllunio a gweithdrefnau ymchwil |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd cyffredin Paratoi a mewnbynnu data Rheoli systemau storio Cyflwyno gwybodaeth a data Defnyddio ebost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5