Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Maeth Anifeiliaid - Dadansoddiad porthiant a dogni. 2000 Words | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Arferion maeth mewn gweithle amaethyddol 10 Munud | 40% |
Asesiad Semester | Arferion maeth mewn gweithle amaethyddol 10 Munud | 40% |
Asesiad Semester | Maeth Anifeiliaid - Dadansoddiad porthiant a dogni. 2000 Words | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso priodweddau maethol porthiant da byw
Gwerthuso anghenion maeth da byw a llunio dognau addas
Gwerthuso'n feirniadol arferion sy'n canolbwyntio ar faeth yn y gweithle amaethyddol
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn trafod egwyddorion cyffredinol yn ymwneud a maeth anifeiliaid fferm. Yn benodol, bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys cyfansoddiad a dadansoddiad porthiant, anatomeg treulio, rheolaeth o archwaeth, egni, protein, mwynau a fitaminau. Bydd anghenion maeth esiamplau penodol o anifeiliad fferm hefyd yn cael ei drafod a fe ymdrinnir â dulliau dogni egni, protein a maetholion eraill i dda byw yn ogystal ag anhwylderau maeth ac effaith arferion maeth da byw ar yr amgylchedd.
Cynnwys
egni, protein, mwynau a fitaminau.
10 darlith - Egwyddorion sy'n benodol i dda byw gan gynnwys anatomeg a ffisioleg treulio, anghenion a dogni egni a phrotein, fitaminau a mwynau, porthiant a bwydydd, ac anhwylderau maeth da byw.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn creu dogn ar gyfer anifail o'u dewis. Yn ystod y broses hon, bydd problemau lluosog yn codi y bydd angen cael eu datrys trwy ddewis porthiant yn ofalus i'w gynnwys yn y dogn. |
Gallu digidol | Bydd angen creu sleidiau PowerPoint ar gyfer cyflwyniad a bydd taenlenni yn cael eu defnyddio ar gyfer dogni |
Myfyrdod | Bydd myfyrwyr yn myfyrio ar eu profiad lleoliad gwaith ac yn cysylltu profiad â deunydd modiwl a addysgir wrth asesu cyflwyniad |
Synnwyr byd go iawn | Bydd dadansoddiad porthiant yn cael ei gynnal ar samplau silwair o'r ffermydd prifysgol. Bydd dognau yn cael eu creu ar gyfer anifeiliaid go iawn os y dymunir. Bydd natur realistig y dogn yn cael ei asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5