Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 0 Awr Atodol Fel a benderfynir gan y bwrdd arholi. 0 Awr | 100% |
Asesiad Semester | Excel Aseiniad taenlen 400 o eiriau | 15% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Cyflwyniad unigol ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud | 15% |
Asesiad Semester | Bywgraffiad Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd; hyfforddiant mewn ymchwil heb lên-ladrata. 1000 o eiriau | 10% |
Asesiad Semester | Prawf Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau | 10% |
Asesiad Semester | CV Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd, gan ymgynghori ag ymgynghorydd gyrfaoedd. 400 o eiriau | 15% |
Asesiad Semester | Python Aseiniad rhaglennu python 200 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Grŵp Cyflwyniadau poster (grŵp) ar yrfaoedd 200 o eiriau | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gweithio’n unigol i ymchwilio a chyflwyno rhyw bwnc mewn Mathemateg.
Defnyddio pecynnau meddalwedd er mwyn creu dogfennau syml fel Curriculum Vitae, cyflwyniad neu boster.
Gwerthuso profion mewn Mathemateg yn feirniadol.
Gweithio mewn grwpiau i ymchwilio a chyflwyno gwybodaeth am yrfaoedd Mathemategol.
Deall sut i ymgeisio am swydd, gan amlygu sgiliau a phrofiadau i gyflogwr posib.
Creu neu addasu taenlen er mwyn gwneud nifer o gyfrifiadau, cynhyrchu crynodebau, delweddu’r data a’r canlyniadau.
Ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol er mwyn datrys problemau mathemategol a delweddu graffiau.
Disgrifiad cryno
Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i raglennu cyfrifiadurol trwy ystod o becynnau: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyniadau, taenlenni a rhaglennu ffurfiol yn Python. Byddwn yn defnyddio cysyniadau syml o fathemateg er mwyn arddangos defnydd syml o feddalwedd a’r sgiliau cysylltiedig yn y gweithle.
Bydd y Gwasanaethau Gyrfaoedd yn cynnig rhaglen ymwybyddiaeth gyrfaoedd, lle bydd pob myfyriwr yn paratoi llythyr cyflwyniad ac yn sefydlu Curriculum Vitae arlein. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau er mwyn ymchwilio i’r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion yn eu maes, a’r berthynas rhwng y sgiliau maent yn ei ddatblygu a’r gyrfaoedd hynny. Bydd pob tîm yn creu cyflwyniad poster ar eu canfyddiadau, gan wneud defnydd o’r meddalwedd perthnasol.
Cynnwys
Pecynnau meddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno (Latex, PowerPoint):
Cyflwyniad, dogfennau syml, fformatio, mynegiadau mathemategol, cyflwyniadau.
Prawf mathemategol: gwerthusiad critigol o ddulliau profi.
Cyflwyniad unigol ar bwnc mewn Mathemateg.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi llythyr cyflwyniad a
CV, wedi ei redeg gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Cyflwyniad poster (grŵp) ar y berthynas rhwng y sgiliau sydd gan Fathemategwyr a’r gyrfaoedd sydd ar gael iddynt.
Taenlenni: trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin a delweddu set ddata (mawr).
Rhaglennu: cyflwyniad sylfaenol i python ac egwyddorion rhaglennu cyfrifiadurol, gyda pheth delweddu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Bydd y gwaith sy’n arwain tuag at y cyflwyniad grŵp yn cael ei wneud mewn timau. |
Cyfathrebu proffesiynol | Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau ysgrifenedig a’r CV. Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebi ar lafar yn y cyflwyniadau. |
Datrys Problemau Creadigol | Datblygir sgiliau datrys problem yn y modiwl wrth ymdrin â phrofion, taenlenni a’r aseiniadau rhaglennu, ac wrth baratoi cyflwyniad ar bwnc mewn Mathemateg. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Mae sgiliau dadansoddol yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd ag ymchwil ar gyfer yr aseiniad bywgraffiad a’r cyflwyniad unigol, ac wrth ymchwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwahanol. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Datblygir sgiliau mathemategol wrth werthuso profion. Bydd cysyniadau a thechnegau rhifiadol/delweddu yn cael eu hystyried mewn cysylltiad â thaenlenni a rhaglennu cyfrifiadurol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4