Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MOR9005
Teitl y Modiwl
Moeseg, Llenladrata ac Ymarfer Academaidd ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Haf
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein  Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein 500 o eiriau  35%
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif  Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif 1 Awr  10%
Asesiad Ailsefyll Cynllun Data Amlinellol  Amlinelliad o'r cynllun data 400 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol  Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol 500 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eich prosiect ymchwil  Cwblhau cynllun rheoli data llawn ar gyfer y prosiect ymchwil 800 o eiriau  15%
Asesiad Ailsefyll 4 Awr   Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth  Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth 4 Awr  20%
Asesiad Semester 1 Awr   Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif  Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif 1 Awr  10%
Asesiad Semester Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein  Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein 500 o eiriau  35%
Asesiad Semester Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol  Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol 500 o eiriau  10%
Asesiad Semester Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eich prosiect ymchwil  Cwblhau cynllun rheoli data llawn ar gyfer y prosiect ymchwil 800 o eiriau  15%
Asesiad Semester Cynllun Data Amlinellol  Amlinelliad o'r cynllun data 400 o eiriau  10%
Asesiad Semester 4 Awr   Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth  Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth 4 Awr  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall ac asesu llên-ladrata yn eu gwaith ysgrifenedig (a gwaith eraill), a'i werthuso yn feirniadol.

Deall ac asesu materion moesegol eu prosiect ymchwil eu hunan, a'u gwerthuso yn feirniadol.

Deall hawlfraint, gwarchod data, ac anghenion storio data mewn perthynas a'u hymchwil.

Disgrifiad cryno

Mae'n angenrheidiol fod gan fyfyrwyr PhD/MPhil ddealltwriaeth fanwl o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint a.y.b. ar ddechrau eu cwrs. Bydd y modiwl hwn yn darparu arolwg/cyflwyniad pwrpasol. Bydd y modiwl mewn ffurf gweithdy a fydd yn ffocysu ar Foeseg Ymchwil a Materion Ysgrifennu. Bydd hyn yn cynnwys, moeseg, materion llenladrata, cyfrinachedd, hawlfraint, gwarchod data, rhyddid gwybodaeth yn y broses ymchwil ac ysgrifennu, ac anghenion storio data. Bydd proses foesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnwys.

Nod

Darparu dealltwriaeth o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint , a.y.b. i fyfyrwyr PhD/MPhil. Amlygu system moesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth i'r myfyrwyr.

Cynnwys

Cyflwynir y modiwl fel gweithdy un diwrnod yn trafod yr agweddau perthnasol. Mae'r gweithdy yn cynnwys ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau. Dilynir hyn gan y myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiectau ymchwil ar-lein ar gyfer cymeradwyaeth moesegol, gan fod angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y person priodol yn eu hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil). Yn ogystal, bydd angen cwblhau cynllun rheoli data (gan ddefnyddio adnoddau ar-lein).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Rhwydweithio yn ystod y gweithdy
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ymhob agwedd.
Datrys Problemau
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn ystod y gweithdy
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Cymeradwyo moesegol a chynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect eu hunan.
Sgiliau ymchwil Yn ystod y gweithdy ac ar ol y gweithdy.
Technoleg Gwybodaeth Proses cymeradwyo moesegol ar-lein

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7