Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y bwrdd arholi adrannol | 100% |
Asesiad Semester | Dyddiadur labordy ysgrifenedig | 60% |
Asesiad Semester | Adroddiad ffurfiol ysgrifenedig | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Cyflawni arbrofion syml yn y gwyddorau ffisegol
2. Cyflawni dadansoddiad syml o gyfeiliornadau mewn mesuriadau
3. Llunio casgliadau priodol o ganlyniadau
4. Cyflwyno a dadansoddi gwaith mewn dyddiadur labordy
5. Disgrifio gwaith mewn adroddiad ffurfiol
6. Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i waith arbrofol yn y gwyddorau ffisegol. Rhoddir pwyslais ar hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio offerynnau sylfaenol, gwneud cyfrifiadau cyfeiliornadau syml ac asesu'r canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynadwy. Mae'r arbrofion wedi'u cynllunio i adlewyrchu testunau damcaniaethol a gyflwynir mewn modiwlau eraill – felly mae'r arbrofion yn cwmpasu priodweddau mater, grymoedd, mecaneg, trydan, magneteg ac electroneg. Datblygir sgiliau cyflwyno yng nghyd-destun yr arbrofion.
Cynnwys
Ar gyfer cyflwyniad y gwaith disgwylir i bob myfyriwr gadw Dyddiadur Labordy gan nodi cynnydd manwl pob arbrawf, ysgrifennu adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a rhoi cyflwyniad llafar.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cofnodi arbrofion yn y dyddiadur labordy. Cyd-weithio mewn grwpiau bychain i gyflawni arbrofion. Cyfathrebu canlyniadau drwy adroddiad ffurfiol a chyflwyniad llafar. |
Datrys Problemau | Caiff myfyrwyr eu hannog i gyflawni'r arbrofion a chynnig dulliau a datrysiadau. |
Gwaith Tim | Mae'r myfyrywr yn gweithio mewn grwpiau bychain ar bob arbrawf ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ystyried y gwaith yn feirniadol ac adlewyrchu i asesu'r modd y cyflawnwyd arbrawf a sut y gellid ei wella. |
Rhifedd | Mae sgiliau mathemategol yn ganolog i ddeall a chymhwyso'r theori sylfaenol. Cofnodi data wrth gynnal arbrofion. Cymhwyso dadansoddiad cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau. Asesir drwy ddyddiaduron labordy ac adroddiad ffurfiol. |
Sgiliau pwnc penodol | Cymhwyso theori sylfaenol yn y gwyddorau ffisegol i ddulliau arbrofol. |
Sgiliau ymchwil | Mae angen ymchwil cefndirol a sgiliau cyfeirio elfennol ar gyfer adroddiad ffurfiol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir prosesydd geiriau i baratoi'r adroddiad ffurfiol. Defnyddir PowerPoint neu becyn cyfatebol yn y cyflwyniad llafar. Defnyddio offer arbrofol sylfaenol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3