Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyfweliad i 'Y Ddraig' Trefnu, cynnal, recordio, trawsysgrifo a golygu cyfweliad gyda ffigwr llenyddol neu ddiwylliannol ar gyfer 'Y Ddraig'. 1000 o eiriau | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o dasgau 4 tasg ysgrifenedig cyfwerth. 1. crynodeb (100 gair) 2. datganiad i'r wasg (350 gair) 3. cofnodion (750 gair) 4. adroddiad (800 gair) 2000 o eiriau | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Cyfraniad llafar Sylwebaeth hunanarfarnol o berfformiad ar y modiwl ar ffurf recordiad llafar (MP3). 10 Minutes | 10% |
Asesiad Semester | Portffolio o dasgau 4 tasg ysgrifenedig cyfwerth. 1. crynodeb (100 gair) 2. datganiad i'r wasg (350 gair) 3. cofnodion (750 gair) 4. adroddiad (800 gair) 2000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | 2 Awr Cyfraniad llafar Asesu parhaus o gyfraniad llafar i'r Noson Llen a Chan (Semester 1) a'r ffug-gyfweliad (Semester 2). | 10% |
Asesiad Semester | Cyfweliad i 'Y Ddraig' Trefnu, cynnal, recordio, trawsysgrifo a golygu cyfweliad gyda ffigwr llenyddol neu ddiwylliannol ar gyfer 'Y Ddraig'. 1000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y byd cyfoes.
Dangos sgiliau llafar proffesiynol priodol.
Dangos sgiliau ysgrifennu proffesiynol priodol.
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ddefnydd a chyweiriau'r iaith gyfoes mewn amgylchiadau amrywiol, e.e. ysgrifennu academaidd, newyddiaduraeth, cyfieithu ar y pryd, addasu a chyfieithu, cadw cofnodion ffurfiol, ysgrifennu adroddiadau, ysgrifennu datganiadau i'r wasg.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr rhugl yn y Gymraeg ar gyfer gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel broffesiynol yn y Brifysgol ac yn y gweithle. Anelir at fyfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau iaith proffesiynol.
Cynnwys
1 Y Gymraeg yn y Cynulliad
2 Gweinyddu drwy'r Gymraeg; cymryd cofnodion
3 Llunio adroddiadau, ysgrifennu llythyron ffurfiol, a gwneud precis
4 Llunio c.v. a chynnal cyfweliadau
5 Cyfieithu ar y pryd, chyfieithu ar bapur a chyfeithu ar y cyfrifiadur
6 Y Gymraeg mewn newyddiaduraeth; ysgrifennu datganiadau i'r wasg
7 Y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru
8 Cyfieithu ac addasu deunyddiau ysgrifenedig o iaith arall
9 Golygu a pharatoi ar gyfer y wasg; cysodi a chywiro proflenni
10 Sgiliau llafar proffesiynol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy gyfrannu ar lafar mewn seminarau a dosbarthiadau a thrwy sefyll profion. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Drwy ddatblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol ac ymwybyddiaeth o ofynion byd gwaith |
Datrys Problemau | Drwy werthuso'n feirniadol broblemau a osodir yn ystod y cwrs. |
Gwaith Tim | Drwy gyfrannu'n effeithiol i weithgareddau grw^p |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy werthuso adborth gan ddarlithwyr a thiwtoriaid |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Drwy ddod o hyd i wybodaeth berthnasol yn y llyfyrgell, ar y We, ac yn y cyfryngau perthnasol. |
Technoleg Gwybodaeth | Drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd berthnasol megis Cysill, Cysgair a Google Translate, ac offer cyfieithu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4