Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG18800
Teitl y Modiwl
Sgiliau ar gyfer y Diwydiant Amaethyddol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad data  2000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad  10 Munud  40%
Asesiad Semester Adroddiad data  2000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Cyflwyniad  10 Munud  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf a chyflwyniad yn dilyn y daith astudio amaethyddol

Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau

Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd

Nodi ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol

Nodi ffactorau sy'n dylanwadu ar systemau cynhyrchu ac asesu eu heffaith ar reolaeth a pherfformiad busnes

Dangos dealldwriaeth o gadwyn gyflenwi amaethyddol

Gosod ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).

Dehongli a defnyddio data

Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig ar y modiwl yw cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, synthesis data ac asesu a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn mynd ar daith astudio wythnos o hyd yn Nwyrain Lloegr. Yn dilyn yr ymweliad bydd y myfyrwyr yn gwneud cyflwyniad a fydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn grŵp a chyflwyno.

Cynnwys

Fydd yr modiwl yma yn cael i dysgu trwy gweithgareddau ac darlithoedd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd myfyrwyr yn weithio fel rhan o grwp yn ystod yr gweithgareddau ac yn dablygu sgiliau cyfarthebu.
Sgiliau Pwnc-benodol Yn ystod y modiwl, bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol gadwyni cyflenwi a systemau cynhyrchu, yn enwedig Dwyrain Lloegr
Synnwyr byd go iawn Fydd myfyrwir yn gael sesiwn fydd yn ganolbwyntio ar gyrfa a beth sydd yn posib i ein myfyrwir ar ol prifysgol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4