Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Dysgu ac Addysgu sy'n gynnwys: • Cynllun (iau) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Gwerthusiad(au) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Adnoddau (AD1, AD2, AD3) • Sylwebaeth feirniadol (AD1, AD2, AD3, AD4, AD5) 3000 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Portffolio Dysgu ac Addysgu sy'n gynnwys: • Cynllun (iau) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Gwerthusiad(au) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Adnoddau (AD1, AD2, AD3) • Sylwebaeth feirniadol (AD1, AD2, AD3, AD4, AD5) 3000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Bydd myfyrwyr yn myfyrio'n feirniadol a chymhwyso damcaniaethau ac ymchwil am addysgeg, datblygiad dynol a dysgu a'u cymhwyso
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o ddamcaniaeth ac egwyddorion cwricwlwm ynghyd ag ymrwymiad i, Cwricwlwm i Gymru.
Bydd myfyrwyr yn deall eu cyfrifoldeb dros gynllunio i ddiwallu anghenion pob dysgwr.
Bydd myfyrwyr yn deall y rôl ac yn cymhwyso'r egwyddorion asesu i alluogi cynnydd mewn dysgu.
Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau i fod yn ymarferwyr myfyriol, a hysbysir gan ymchwil.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddod yn arbenigwyr pwnc a chyfnod cymwys trwy ddatblygu eich dealltwriaeth o wybodaeth ddisgyblaethol i fodloni'r safonau proffesiynol. Byddwch yn dechrau datblygu eich cymhwysedd i ddylunio'r cwricwlwm ac ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol yn eich ymarfer. Byddwch yn archwilio ac yn gwerthuso ymchwil a theori sy'n berthnasol i'ch arbenigedd pwnc a'ch cyfnod. Byddwch yn dechrau deall natur amrywiol a newidiol poblogaeth yr ysgol ac yn datblygu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn eich ymarfer er mwyn creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ddamcaniaethau asesu.
Nod

Cynnwys
2. Sgiliau trawsgwricwlaidd (llythrennedd a rhifedd); Egwyddorion Cynnydd.
3. Cynhwysiant a gwahaniaethu: deall ymddygiad; Deall dylanwadau a rhwystrau amrywiol ffactorau personol, cymdeithasol a diwylliannol ar ddysgwyr.
4. Sgiliau trawsgwricwlaidd (fframwaith cymhwysedd digidol); gwerthuso'r dysgu; defnyddio data a thu hwnt i lywio cynllunio a nodi cynnydd.
5. Amgylcheddau dysgu - rheoli a threfnu; Iechyd a lles.
6. Asesu ar gyfer dysgu; Cynllunio'r cwricwlwm.
7. Cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol; addysgeg gwrth-hiliol.
8. Myfyrio ar ymarfer a nodi targedau; Themâu trawsgwricwlaidd a rhyngddisgyblaethol / tasgau cynllunio cydweithredol.
9. Diwrnodau Partneriaeth: Myfyrio ar ymarfer; gwerthuso'r dysgu / asesu i lywio cynllunio; adrodd ar gynnydd; Gweithio ar y cyd e.e. gyda'r CADY; lles – athrawon.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Rhaid i fyfyrwyr addasu i dri lleoliad ysgol. |
Cydlynu ag erail | Bydd myfyrwyr yn dysgu gweithio gyda mentoriaid a chydweithwyr. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn cyfathrebu â chydweithwyr, rhieni a gofalwyr. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn cynllunio gwersi ac adnoddau yn greadigol ar gyfer pob dysgwr yn eu gofal. |
Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn cynnwys y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn eu haddysgu. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu'n feirniadol ag ymchwil addysgol sy'n berthnasol i'w hymarfer. |
Myfyrdod | Bydd myfyrwyr yn dod yn ymarferwyr myfyriol. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau a gwybodaeth yng nghyd-destun eu harbenigedd pwnc neu gyfnod. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thri lleoliad mewn ysgolion. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6