Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Aseiniad Ysgrifenedig a Dogfennaeth Cefnogol | 40% |
Semester Assessment | Prosiect Fideo | 60% |
Supplementary Assessment | Aseiniad Ysgrifenedig a Dogfennaeth Cefnogol | 40% |
Supplementary Assessment | Prosiect Fideo | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Dangos gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffilmiau Dogfen, a'r gallu i'w creu.
Adnabod a diffinio'r canlyniadau arfaethedig ar gyfer cynhyrchu ffilm ddogfen. Bydd y canlyniadau yn canolbwyntio ar : adrodd straeon, arddulliau gweledol/golygu a thechnegau cynhyrchu priodol.
Dangos cymhwystra technegol a logistaidd ar draws cynhyrchu camera sengl.
Gwerthuso ac asesu gwaith cynhyrchu, dangos gallu i gynnig a derbyn beirniadaeth adeiladol.
Brief description
Mae’r modiwl ymarferol hwn yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cynhyrchu dogfen creadigol hollbwysig ac mae’n cynnig cyflwyniad hanfodol i’r genre wrth baratoi ar gyfer y modiwl trydedd flwyddyn. Fel y cyfryw, bydd yn creu ymdeimlad o'r amrywiaeth eang iawn o arddulliau dogfennol sydd ar gael: ail-greu dramatig, deunydd archif, animeiddio, trosleisio, effeithiau sain, cerddoriaeth, cyfweliadau, a sinema arsylwi. Daw’r modiwl i ben gyda phrosiect terfynol yn cynnwys cynhyrchu rhaglen ddogfen greadigol 5 munud
Aims
Nod y modiwl yw dyfnhau sgiliau crefft gwaith camera ac arferion golygu, yn ogystal â datblygu’r rolau a’r cyfrifoldebau er mwyn gweithio’n effeithiol a chydweithredol fel tîm cynhyrchu.
Mae'r modiwl hefyd yn anelu at godi safonau proffesiynoldeb mewn gwaith cynhyrchu, cyflwyniadau a phitsio.
Content
Darlithoedd/Sesiynau Gwylio
Y 6 math o raglenni dogfen
Gweithdai:
Ymarfer arsylwi (Dogfen Arsylwi)
Ymarfer cyfweld (Rhaglen Ddogfen Gyfranogol / Perfformio)
Ymarfer gweithgaredd (Rhaglen Ddogfen Expository)
Taith Ymchwil Ceredigion (Rhaglen Ddogfen Farddonol)
Cynnig syniad (Rhaglen Ddogfen Atgyrchol)
Sgiliau cyn-gynhyrchu
Datblygu syniad
Gweithdy Camera/Sain
Golygu Rhaglenni Dogfen
Dybio a theitlau
Cyflwyniadau a Dangosiadau
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Bydd y myfyriwr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu'r sgriptiau. Gan eu bod yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn cynnwys sgiliau cyfathrebu uchel. Trafodir hefyd waith sy'n cael ei ddangos a phynciau perthnasol, ynghyd â beirniadu sgriptiau personol y myfyrwyr. Anogir myfyrwyr i drafod yn fwyfwy manwl a soffistiedig. |
Improving own Learning and Performance | Bydd y cwrs yn gofyn am feirniadu pob agwedd ar y gwaith cynhyrchu, o'r cyfarwyddo i’r golygu. Ar ben hynny, bydd y cwrs yn mynnu bod y myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchir wrth lunio’r sgript. Anogir y myfyrwyr i addasu eu gwaith wrth ymateb i'r asesiad hwn. Bydd yr aseiniad ysgrifenedig/traethawd beirniadol yn gwerthuso'r darn fideo. |
Information Technology | Bydd dyddiaduron, sgriptiau a chynigion yn cael eu geirbrosesu. Bydd y ffilm Fideo Digidol yn cael ei golygu ar gyfrifiadur gan ddefnyddio Avid Media Composer. Mae'n bosibl y defnyddir cymwysiadau a thechnolegau cyfrifiadurol eraill, gan ddibynnu ar brosiect cynhyrchu penodol y myfyriwr. |
Personal Development and Career planning | Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn rolau wedi'u diffinio'n broffesiynol mewn gweithdai ac ymarferion a asesir, ac fe fyddant felly yn cael syniad o gynhyrchu proffesiynol yn y cyfryngau |
Problem solving | Rhoddir cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael ag amrywiaeth o broblemau cyfarwyddo a sinematograffig yn ystod y gweithdai wythnosol. Yn fwy penodol, bydd myfyrwyr yn ystyried technegau adrodd straeon, cyfarwyddo a golygu priodol. At hyn, wrth gynhyrchu'r gwaith, bydd myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys y problemau logistaidd, cyllidebol a thechnegol sydd ynghlwm â chynhyrchu. |
Research skills | Bydd cynhyrchu'r gwaith fideo yn gofyn am ymchwilio i amrywiaeth eang o weithiau cynhyrchu ffilmiau dogfen, yn ogystal â deunyddiau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Bydd saethu a golygu’r fideos yn golygu ymchwilio i'r systemau technegol a ddefnyddir wrth eu creu. |
Subject Specific Skills | Datblygu sgiliau cyn-gynhyrchu drwy'r cysyniad o gynyrchiadau lluosog, a'u cynllunio. Datblygir sgiliau cynhyrchu camera sengl i lefel uwch. Datblygir sgiliau golygu drwy ôl-gynhyrchu gwaith fideo. |
Team work | Bydd y gweithdy yn cynnwys gwaith grŵp wrth gynllunio a gweithredu'r gwaith cynhyrchu. Bydd cynhyrchu'r fideos yn golygu cydweithredu'n agos iawn. |
Notes
This module is at CQFW Level 5