Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC24940
Module Title
Prosiect Cynhyrchu Theatr
Academic Year
2025/2026
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
TP24940 Mae TC24940 yn fersiwn cyfrwng-Cymraeg o TP24940

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 172 Hours   Proses Ymarfer a Pherfformio  172 Awr  70%
Semester Assessment Myfyrdod Beirniadol  3000 o eiriau  30%
Supplementary Assessment Traethawd  Bydd graddfa a natur y traethawd hwn yn cael ei benderfynu gan Gydlynydd y Modiwl a'r Pennaeth Adran, yn ôl canran y gwaith a gollwyd. 6000 o eiriau  70%
Supplementary Assessment Myfyrdod Beirniadol  Bydd graddfa a natur y traethawd hwn yn cael ei benderfynu gan Gydlynydd y Modiwl a'r Pennaeth Adran, yn ôl canran y gwaith a gollwyd. 3000 o eiriau  30%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r materion damcaniaethol ac ymarferol allweddol sy’n codi wrth ymchwilio, ymarfer a llwyfannu digwyddiad perfformiad.

Dangos dealltwriaeth o’r methodolegau cyfansoddi ac ymarfer sy'n briodol i gyflawni'r digwyddiad penodol.

Dangos y gallu i weithio ar y cyd tuag at gyflwyno prosiect perfformio.

Ymgysylltu'n feirniadol â'r broses gynhyrchu/perfformio trwy ddealltwriaeth a dadansoddiad datblygedig a sensitif o ddamcaniaethau perfformiad, geirfaoedd, dulliau gwaith a modelau ymarfer perthnasol.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu, ymarfer a llwyfannu digwyddiad perfformio ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus. Gan weithio dan arweiniad aelod o staff adrannol, neu ymarferydd theatr profiadol, bydd myfyrwyr yn cael eu dyrannu i rolau sy'n rhan annatod o'r tîm perfformio a/neu gynhyrchu ac yn cymryd rhan mewn darn gwreiddiol o greu theatr o 60-90 munud o amser chwarae (neu lai lle bo hynny'n briodol). Bydd cyfarwyddwr y prosiect yn llunio'r prosesau ymarfer a pherfformio i roi cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwilio, myfyrio a gwerthuso'n feirniadol eu profiad o weithio ar y prosiect. Bydd y prosiect yn cael ei berfformio yn un o'r lleoliadau perfformiad adrannol neu leoliad priodol sy'n benodol i'r safle. Yn ystod y prosiect cynhyrchu, bydd myfyrwyr yn wynebu heriau perfformiad penodol a chwestiynau ymchwil perfformiad; a bydd gofyn iddynt lunio myfyrdod beirniadol i gyd-destunoli eu profiad a fydd yn arddangos dealltwriaeth a dadansoddiad datblygedig a sensitif o ddamcaniaethau perfformiad priodol, ac o systemau a dulliau cyfansoddiadol.

Aims

Mae amcanion y modiwl fel a ganlyn:
Rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddarganfod a datblygu'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol ar gyfer creu cynhyrchiad theatraidd byw
Rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddarganfod a datblygu sgiliau cydweithio fel tïm gan greu, adnabod a manteisio ar alluoedd a diddordebau arbenigol ymwysg aelodau'r grwp
Rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddarganfod a datblygu'r gallu i gyfrannu at gynllunio rhaglen o waith ymarferol tuag at gyflwyno cynhyrchiad theatraidd byw yn gyhoeddus
Rhoi cyfle i fyfyrwyr i arddel ac ymestyn sgiliau beirniadol a chreadigol wrth werthuso natur a chyrhaeddiad cynhyrchiad theatraidd byw

Content

Gan weithio mewn grwpiau prosiect, bydd myfyrwyr yn cael rolau sy'n briodol i'r prosiect creu theatr (er enghraifft, fel cyfarwyddwyr cynorthwyol, actorion/perfformwyr, rheolwyr llwyfan neu unrhyw gyfuniad o'r uchod). Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos yn ystod y semester, pan fydd myfyrwyr yn cymhwyso strategaethau cyfansoddiadol ac ymarfer priodol i ddatblygu'r prosiect, tra hefyd yn cyd-destunoli eu gwaith mewn perthynas â gwaith ymarferwyr ac artistiaid theatr perthnasol. Disgwylir i fyfyrwyr archwilio a chymathu gwaith ymchwil annibynnol, a dyfeisio ac arwain ymarferion ac ymarferion datblygu creadigol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn pedwar tiwtorial lle bydd y MC yn eu harwain i adlewyrchu ar eu proses a chynnig arsylwadau beirniadol ac adborth ar waith ymarferol. Bydd myfyrwyr yn cadw llyfr nodiadau gweithredol sy'n cofnodi’r datblygiadau a’r heriau sylweddol y maent wedi'u hwynebu yn y broses, a byddant yn defnyddio'r rhain i fyfyrio ar y prosiect. Trwy gydol y prosiect bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio'n gyfrifol, yn adeiladol, yn greadigol ac yn ddiogel gyda’u cyd-fyfyrwyr, gan ddatrys problemau wrth iddynt godi a chyflawni'r heriau penodol sy'n gynhenid i natur eu prosiect.

Module Skills

Skills Type Skills details
Adaptability and resilience Bydd hwn yn sgil allweddol wrth i'r myfyrwyr ddod at ei gilydd i greu gwaith ar y cyd a gweithredu fel grwp creadigol a chydweithredol. Bydd gofyn iddynt weithio'n effeithiol a datblygu rôl iddyn nhw eu hunain o fewn brîff y prosiect cynhyrchu ymarferol, gan gyrraedd nod creadigol y prosiect erbyn iddo gael ei gyflwyno i'r cyhoedd ar ddiwedd y cyfnod ymarfer 8 wythnos.
Co-ordinating with others Mae datblygu sgiliau gweithio mewn tîm yn gynhenid i sefyllfaoedd perfformiad. Mae rhan annatod o'r cynhyrchiad hwn yn annog dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Yn dibynnu ar rolau, gall sgiliau arwain tîm hefyd fod yn rhan bwysig o'r profiad dysgu ar gyfer y modiwl hwn. Bydd y gallu i adnabod a helpu i feithrin a chynnal eu gwaith creadigol ei gilydd yn allweddol bwysig i lwyddiant y prosiect cynhyrchu ymarferol.
Creative Problem Solving Mae'r sgiliau hyn yn cael eu datblygu wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r heriau gwahanol sy'n dod i'r amlwg yn ystod y prosesau ymarfer a pherfformio ar gyfer y prosiect.
Professional communication Mae datblygu sgiliau cyfathrebu yn gynhenid i bob agwedd ar berfformiad. Mae'r gallu i ryngweithio'n effeithiol ag aelodau o'r cwmni a phobl eraill y deuir ar eu traws yn ystod y broses baratoi yn sgil sylfaenol sy'n benodol i bwnc.
Real world sense Gellir trosglwyddo llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy waith ymarferol y modiwl hwn i ystod eang o gyd-destunau yn y byd real.
Reflection Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddadansoddi a myfyrio'n feirniadol ar eu gwaith a'u cynnydd eu hunain trwy gydol y prosesau ymarfer a pherfformio a dadansoddi effeithiolrwydd ethos a dull y grŵp a'r cyfarwyddwyr.
Subject Specific Skills Gweler Datganiad Meincnod Pwnc Dawns, Drama a Pherfformiad QAA (Fersiwn 2015). Mae'r sgiliau canlynol yn cael eu datblygu a'u hasesu'n rhannol: I. cymryd rhan mewn perfformiad a chynhyrchu, yn seiliedig ar gaffael a dealltwriaeth o eirfâu, sgiliau, strwythurau, dulliau gweithio a pharadeimau ymchwil priodol; II. datblygu repertoire o sgiliau, arferion a thechnegau o ran dehongli a gweithredu (corfforol/llafar/gofodol), a chymhwyso'r rhain yn effeithiol wrth i ymgysylltu â chynulleidfa

Notes

This module is at CQFW Level 5