Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC20920
Module Title
Theatr a Chymdeithas Gyfoes
Academic Year
2025/2026
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
TP20820 Mae TC20920 yn gyfieithiad Cymraeg o TP20820.

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Cynnig Prosiect  2000 o eiriau  50%
Semester Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%
Supplementary Assessment Cynnig Prosiect  2000 o eiriau  50%
Supplementary Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Arddangos gallu i fynegi dealltwriaeth o'r gwahanol ffyrdd y mae theatr yn amlygu materion a dadleuon cymdeithasol.

Arddangos gallu i grynhoi a chymathu nifer o safbwyntiau beirniadol gwahanol, a'u defnyddio er mwyn dadansoddi ymarferion creadigol a digwyddiadau perfformio byw.

Arddangos a chyfleu dealltwriaeth o oblygiadau gwleidyddol gwahanol fframweithiau a safbwyntiau dadansoddol, mewn perthynas ag ymarferion perfformiadol.

Arddangos dealltwriaeth bersonol o faterion cymdeithasol perthnasol o'r amryfal ffurf amlygir y syniad o gymdeithas, a'r modd y gellir lleoli ymarfer greadigol unigol o fewn disgyrsiau cyfoes.

Brief description

Beth yw’r berthynas rhwng theatr â’r byd yr ydym yn byw ynddo? Beth yw pwrpas theatr a pherfformio mewn oes o drychinebau sy’n ymddangos yn barhaus, ac yng nghysgod cwymp hinsawdd? Gan ystyried pwnc gwahanol pob wythnos a thrwy ddadansoddi cyfres o destunau beirniadol allweddol ac astudiaethau achos ymarferol, diben y modiwl hwn yw archwilio’r modd y gall theatr a pherfformio ymateb i rai o faterion mwyaf dybryd ein hennyd gyfoes.

Dros ddeg wythnos, byddwn yn dadansoddi ystod o wahanol ffurfiau ac arferion perfformio, gan gynnwys drama, Celf Byw, celf berfformio a gosodweithiau, a sut mae’r enghreifftiau hyn yn ymateb i ddadleuon ehangach o fewn cymdeithas gyfoes. Mae’r modiwl yn gwahodd myfyrwyr i archwilio sut y gall theatr a pherfformio gynnig mewnwelediad i faterion cymdeithasol cyfoes, a hefyd sut y gall ymarfer creadigol personol geisio fynd i’r afael â’r un materion, i adlewyrchu ac i ymateb i’r hyn sydd o bwys i’r myfyrwyr, ac i leoli ei gwaith ei hunain o fewn gwahanol ddisgyrsiau sydd eisoes yn bodoli.

Content

Cyflwynir y modiwl trwy gyfrwng un ddarlith un awr wythnosol ac un seminar ddwy awr wythnosol dros gyfnod o ddeg wythnos. Ar gyfer pob seminar, bydd gofyn i fyfyrwyr fynd i’r afael â dau destun beirniadol gwahanol ac un astudiaeth achos berfformiadol. Yn dilyn darlith ragarweiniol, strwythurir y modiwl yn ôl tri bloc thematig fydd yn eu tro yn ystyried pobl, llefydd, a phethau, gyda phob bloc yn cynnwys tair wythnos. Bydd y bloc cyntaf yn edrych ar bobl ac yn canolbwyntio ar y corff materol. Bydd yr ail yn ehangu er mwyn ystyried llefydd, gan ganolbwyntio ar gyrff materol yn y byd materol, y berthynas rhwng gwahanol gyrff ac arwyddocâd y bylchau sydd rhyngddynt. Bydd y bloc olaf yn canolbwyntio ar ‘bethau’ sydd yn fwy haniaethol ac yn llai materol.

Cynnwys Enghreifftiol y Darlithoedd:

Rhan Un: POBL
Wythnos Un: Cyflwyniad: Pobl, Lleoedd a Pethau
Wythnos Dau: Y Corff Amatur
Wythnos Tri: Y Corff Rhyweddol
Wythnos Pedwar: Y Corff Hiliogedig

Rhan Dau: LLEFYDD
Wythnos Pump: Cenedl
Wythnos Chwech: Ffiniau
Wythnoas Saith: Yr Amgylchfyd ac Ecoleg

Rhan Tri: PETHAU
Wythnos Wyth: Trawma
Wythnos Naw: Gweithrediad
Wythnos Deg: Gobaith ac Iwtopia

Module Skills

Skills Type Skills details
Creative Problem Solving Mae datrys problemau dadansoddol, adnabod canlyniadau ac adnabod strategaethau a gweithdrefnau priodol yn cael eu hannog a'u hasesu
Professional communication Mae'r gallu i gyfathrebu syniadau'n effeithiol ar ffurf ysgrifenedig yn cael ei asesu'n uniongyrchol. Mae'r gwaith a wneir mewn seminarau yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar er nad yw hyn yn cael ei asesu'n uniongyrchol.
Real world sense Mae sgiliau trosglwyddadwy (rheoli llwyth gwaith personol a chwrdd â therfynau amser, dylunio a gwireddu prosiect ymchwil) yn cael eu datblygu trwy gwblhau'r tasgau asesu. Nid yw ymwybyddiaeth gyrfa ynddo'i hun yn elfen a asesir o'r modiwl hwn, fodd bynnag.
Reflection Mae hunan-reoleiddio, cymhelliant a sgiliau rheoli amser yn cael eu datblygu drwy'r modiwl a disgwylir i i’r myfyrwyr eu harddangos hwy wrth gwblhau eu haseiniadau yn llwyddiannus. Mae'r sgiliau hyn yn cael eu hasesu'n uniongyrchol drwy'r holl aseiniadau
Subject Specific Skills Gweler Datganiad Meincnod Pwnc Dawns, Drama a Pherfformiad QAA (Fersiwn 2007). Mae'r sgiliau pwnc penodol canlynol yn cael eu datblygu a'u hasesu'n rhannol: 1. Disgrifio, damcaniaethu, dehongli a gwerthuso testunau perfformiad a digwyddiadau perfformiad o ystod o safbwyntiau beirniadol 2. Datblygu sgiliau arsylwi ac ymwybyddiaeth weledol, clywedol a gofodol 3. Cymryd rhan mewn ymchwil, boed yn annibynnol, grŵp neu berfformiad 4. Nodi a dehongli fframweithiau diwylliannol

Notes

This module is at CQFW Level 5