Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd Traethawd ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 2000 o eiriau | 60% |
Semester Assessment | Cyflwyniad Seminar Unigol Cyflwyniad byw ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 10 Munud | 40% |
Supplementary Assessment | Traethawd Traethawd ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 2000 o eiriau | 60% |
Supplementary Assessment | Cyflwyniad Seminar Unigol Cyflwyniad byw ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 10 Munud | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Dangos dealltwriaeth briodol o fframweithiau a methodolegau damcaniaethol allweddol sy'n berthnasol i ddadansoddi arferion theatr a pherfformio cyfoes.
Disgrifio, dehongli a gwerthuso amrywiaeth o destunau, arferion a ffurfiau theatr a pherfformio.
Defnyddio strategaethau ymchwil personol priodol wrth archwilio theatr a pherfformio ac i wireddu hyn drwy gyflwyniad academaidd.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i’r prif faterion artistig a dadansoddol yn theatr a pherfformio, yn yr 20fed ganrif ac yn y byd cyfoes. Trwy ddarlleniadau allweddol a dangosiadau fideo, mae'r modiwl yn cyflwyno cysyniadau dadansoddol allweddol i fyfyrwyr, gan amlygu agweddau corfforol/gweledol ar theatr a pherfformio cyfoes, a'r rhyngweithio rhwng perfformwyr a chynulleidfa fyw. Byddwn hefyd yn trafod ymddangosiad safleoedd newydd ar gyfer perfformiad, datblygiad arferion perfformio cynyddol ryngddisgyblaethol, a dylanwad diwylliant poblogaidd a thechnoleg y cyfryngau newydd ar ffurfiau cyfoes. Bydd myfyrwyr yn amgyffred amrywiaeth y gwaith a gynhyrchir yn y maes hwn ynghyd â geirfa feirniadol i fynd i'r afael â'r gwaith hwn, a hynny er mwyn cymhwyso'r sgiliau hyn wrth ddadansoddi perfformiad byw.
Aims
- Cyflwyno cysyniadau allweddol, ymarferwyr blaenllaw a ffurfiau canolog o’r 20fed ganrif ynghyd ag ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.
- Datblygu diffiniadau o theatr a pherfformio fel ymarfer esthetig a digwyddiad byw.
- Darparu cyflwyniad i theori ac estheteg theatr.
- Cyflwyno dulliau methodolegol o ddadansoddi perfformiad byw a’u cymhwysiad.
Content
Cynnwys enghreifftiol y darlithoedd
Wythnosau 1 a 2: Naturiolaeth – Tair Chwaer
Wooster Group – Addasiadau cyfoes o destunau naturiolaidd – Brace Up!
Wythnosau 3 a 4: Theatr Epig ac Ôl-Ddramataidd.
Astudiaeth Achos: Forced Entertainment
Wythnosau 5 a 6: Y Theatr Greulon.
Astudiaethau achos: Brith Gof / Marina Abramovic.
Wythnosau 7 ac 8: Senograffi Theatr a Pherfformio.
Astudiaethau achos: Appia, Craig a Robert Lepage.
Wythnosau 9 a 10: Arbrofion wrth Gyfryngu: Perfformio, ‘Liveness’ ac Amlgyfryngau.
Ecoleg presenoldeb: Astudiaeth achos: Lone Twin.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Co-ordinating with others | Ymdrinnir â chreu gwaith grŵp effeithiol wrth drafod syniadau a barn yn y seminarau. Mae trafodaethau seminarau'n mynnu bod y sgiliau angenrheidiol yn cael eu defnyddio i gynnal gweithgareddau cydweithredol. |
Creative Problem Solving | Mae datrys problemau dadansoddol, adnabod canlyniadau ac adnabod strategaethau a gweithdrefnau priodol yn cael eu hannog a'u hasesu drwy gydol y modiwl |
Professional communication | Mae'r gallu i gyfleu syniadau'n effeithiol yn cael ei ddatblygu yn y seminarau a'i asesu'n uniongyrchol drwy Asesiad 1 a 2. |
Real world sense | Mae sgiliau trosglwyddadwy (rheoli llwyth gwaith personol a chwrdd â therfynau amser, dylunio a gwireddu prosiect ymchwil) yn cael eu datblygu trwy gwblhau tasgau asesu. Nid yw ymwybyddiaeth gyrfa ynddo'i hun yn elfen wedi'i hasesu, fodd bynnag. |
Subject Specific Skills | Gweler Datganiad Meincnod Pwnc Dawns, Drama a Pherfformiad QAA (Fersiwn 2007). Mae'r sgiliau pwnc penodol canlynol yn cael eu datblygu a'u hasesu'n rhannol: Dealltwriaeth o: a. hanesion ac esboniadau damcaniaethol o ffurfiau a thraddodiadau theatr, senograffeg a pherfformiad; (b) cyd-destunau hanesyddol a chyfoes cynhyrchu, cylchrediad a derbyniad theatr; (c) ymarferwyr ac arferion canolog, a/neu ddamcaniaethwyr, a all gynnwys awduron, actorion, cyfansoddwyr, beirniaid, dawnswyr, cyfarwyddwyr, c |
Notes
This module is at CQFW Level 4