Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC11120
Module Title
Creu Ffilmiau Byrion 1
Academic Year
2025/2026
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Prosiect Fideo Grŵp (4-5 munud)  50%
Semester Assessment Traethawd Adlewyrchol Feirniadol  1500 o eiriau  40%
Semester Assessment 1 Hours   Prawf Camera - Theori ac Ymarfer  1 Awr  10%
Supplementary Assessment Traethawd Adlewyrchol Feirniadol  1500 o eiriau  40%
Supplementary Assessment 1 Hours   Prawf Camera - Theori ac Ymarfer  1 Awr  10%
Supplementary Assessment Prosiect Fideo Grŵp (4-5 munud)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Datblygu ffilm fer trwy wahanol gamau cynhyrchu (datblygu, cyn-gynhyrchu, cynhyrchu, ôl-gynhyrchu)

Gallu gweithredu camera, offer sain proffesiynol a meddalwedd golygu.

Gallu dewis a defnyddio cysyniadau ffilm craidd wrth ddatblygu, cynllunio a chynhyrchu eich ffilm.

Gallu cynllunio a chynhyrchu eich ffilmiau mewn modd proffesiynol a diogel.

Gallu gweithio'n greadigol ac yn effeithiol mewn grŵp/criw.

Brief description

Cynlluniwyd Creu Ffilmiau Byr 1 i roi sylfaen yn yr holl sgiliau sylfaenol y bydd eu hangen ar fyfyriwr er mwyn symud ymlaen i fodiwlau ymarferol uwch. Bydd yn helpu i ddatblygu sgiliau technegol, creadigol a logistaidd craidd sy’n ganolog i wneud ffilmiau mewn modd proffesiynol.
Bydd y modiwl hwn yn mynd â myfyrwyr drwy'r cyfnodau allweddol o wneud ffilmiau (datblygu, cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu) ac yn dangos sut mae'r camau hyn yn cysylltu â'i gilydd. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau technegol craidd megis sut i weithredu camerâu proffesiynol, cit sain a meddalwedd golygu. Yr un mor bwysig, byddant yn dysgu cysyniadau creadigol a logistaidd allweddol i'w defnyddio wrth ymdrin â ffilm o rôl Sgriptiwr, Cyfarwyddwr, Gweithredwr Camera, Golygydd neu Dechnegydd Sain.
Bydd y modiwl hwn yn helpu i ddatblygu agwedd greadigol a phroffesiynol at wneud ffilmiau er mwyn i fyfyrwyr allu eu cario i fodiwlau uwch yn y dyfodol.

Aims

Bwriad y cwrs hwn yw cyflwyno cysyniadau a sgiliau allweddol mewn cynhyrchu cyfryngau, a sefydlu'r broses feddwl sydd wrth wraidd gwaith ymarferol.

Content

Mae cynnwys y cwrs yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Camau cynhyrchu. Pwy sy'n gwneud beth a phryd.
  • Ysgrifennu ar gyfer y sgrin: ysgrifennu sgript; siapio strwythur; a thechnegau ar gyfer creu naratif.
  • Gweithdrefnau ar gyfer ffilmio: methodolegau saethu a'u goblygiadau artistig.
  • Creu gwahanol bortreadau o 'ofod' ar y sgrin a'u potensial mynegiadol.
  • Onglau camera a meintiau saethiadau.
  • Ffocysu ddelwedd.
  • Iaith Lens.
  • Agweddau pellach ar sinematograffi digidol.
  • Cysyniadau camera allweddol wrth gyfarwyddo ar gyfer gwneud ffilmiau naratif: egwyddorion, rheolau a phryd dylid eu torri.
  • Cyflwyniad i olygu; saethu ar gyfer golygu.
  • Elfennau ôl-gynhyrchu.
  • Bydd y sesiynau uchod yn cael eu cwmpasu trwy ddarlithoedd a gweithdai am wyth wythnos gyntaf y semester. Bydd y pythefnos arall y semester yn cael ei ddefnyddio i saethu’r prosiect fideo a chymhwyso’r theori i’r ymarfer.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Mae defnyddio pecyn golygu a chamera yn golygu cymhwyso sgiliau rhif.
Communication Mae ymarferion cynhyrchu byr yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd ac actorion. Mae'r prosiect fideo yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd, tiwtor ac actorion.
Improving own Learning and Performance Yn ystod ymarferion camera wythnosol, mae'r tiwtor yn gofyn i fyfyrwyr werthuso eu penderfyniadau creadigol. Yn y traethawd beirniadol, mae myfyrwyr yn gwerthuso i ba raddau y maent wedi gwireddu eu nodau creadigol ar gyfer y cynhyrchiad fideo.
Information Technology Defnyddir meddalwedd proffesiynol i olygu'r gwaith.
Personal Development and Career planning Mae'r modiwl yn pwysleisio gwaith cynhyrchu mewn rolau a ddiffinnir yn broffesiynol fel cyfarwyddwr, sinematograffydd ac awdur. Mae hefyd yn sefydlu ar lefel sylfaenol y gweithdrefnau proffesiynol mewn cynhyrchu. Gellir ychwanegu'r prosiectau fideo at bortffolio cynhyrchu myfyrwyr fel prawf o allu.
Problem solving Mae'r ymarferion wythnosol yn cynnwys problem esthetig i'w datrys trwy wneud penderfyniadau. Mae cynhyrchu asesiad fideo byr yn gofyn am ddatrys problemau mewn meysydd creadigol, deallusol, logistaidd a thechnegol.
Research skills Mae cyn-gynhyrchu ar gyfer prosiect fideo ac aseiniad ysgrifenedig yn cynnwys ymchwil i ddilyniannau ffilm a fydd yn llywio'r gwaith creadigol.
Team work Cynhelir ymarferion camera mewn grwpiau bach. Mae'r cynyrchiadau fideo yn cael eu gwireddu mewn grwpiau bach.

Notes

This module is at CQFW Level 4