Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Portffolio Ysgrifenedig Crynodeb - 750 o eiriau Aseiniad Myfyrio Beirniadol - 750 o eiriau 1500 o eiriau | 50% |
Semester Assessment | Traethawd Ysgrifenedig Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd yn seiliedig ar gwestiwn a ddewisir o restr 1500 o eiriau | 50% |
Supplementary Assessment | Portffolio Ysgrifenedig Crynodeb - 750 o eiriau Aseiniad Myfyrio Beirniadol - 750 o eiriau 1500 o eiriau | 50% |
Supplementary Assessment | Traethawd Ysgrifenedig Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd yn seiliedig ar gwestiwn a ddewisir o restr 1500 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Dangos dealltwriaeth briodol o fframweithiau a methodolegau damcaniaethol allweddol sy'n berthnasol i ddadansoddi arferion theatr a pherfformio hanesyddol a chyfoes.
Disgrifio, dehongli a gwerthuso amrywiaeth o destunau, arferion a ffurfiau theatr a pherfformio.
Dangos gallu priodol i ddadansoddi perfformiad theatrig fel digwyddiad byw o fewn amrywiaeth o gonfensiynau a genres arddulliol.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gyfnodau canolog o hanes theatr gan ganolbwyntio ar theatr gyfoes a'i chyd-destunau hanesyddol cyn yr 20fed ganrif. Mae'r darlithoedd yn cyflwyno unedau pynciol fesul pythefnos, gan archwilio'r 'hen' a'r 'newydd'. Bydd darlith yr wythnos gyntaf yn archwilio enghraifft 'hanesyddol' o theatr a bydd darlith yr ail wythnos yn archwilio ei hetifeddiaeth gyfoes tra hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â pherthynas â enghraifft hanesyddol. Bydd y modiwl yn arfogi myfyrwyr â chysyniadau dadansoddol allweddol o ddrama, cymeriad, y corff, gofod ac amser. Bydd hefyd yn rhoi cyflwyniad iddynt i'r dadansoddiad o ddigwyddiadau theatr/perfformio byw.
Aims
Nodau'r modiwl arfaethedig yw:
- Cyflwyno cysyniadau allweddol, ymarferwyr blaenllaw a ffurfiau canolog o’r 20fed ganrif ynghyd ag ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.
- Datblygu diffiniadau o theatr a pherfformio fel ymarfer esthetig a digwyddiad byw.
- Darparu cyflwyniad i theori ac estheteg theatr.
- Cyflwyno dulliau methodolegol o ddadansoddi perfformiad byw a’u cymhwysiad.
Content
Cynnwys enghreifftiol y darlithoedd:
- Diffiniadau o 'theatr', 'drama' a 'pherfformiad'
- Trasiedi Groeg (Oedipus Rex)
- Addasiadau cyfoes o drasiedi Groeg
- Theatr ganoloesol (Medieval theatre (The Chester Mystery Plays, The Castle of Perseverance)
- Achosion cyfoes o'r Oesoedd Canol (Mistero Buffo)
- Hamlet Shakespeare a genedigaeth y goddrych modern.
- Pensaernïaeth Hamlet (Heiner Muller, Robert Lepage)
- Neo-glasuriaeth (Racine, Moliere)
- Amlygiadau cyfoes o'r neo-glasurol (Kane, Wertenbaker, van Hove)
- Astudio'r hanesyddol a'r cyfoes
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Co-ordinating with others | Ymdrinnir â gwaith grŵp effeithiol drwy drafod syniadau a barn drwy'r seminarau. Mae trafodaethau seminarau'n mynnu bod y sgiliau angenrheidiol yn cael eu defnyddio i gynnal gweithgareddau cydweithredol. |
Creative Problem Solving | Mae datrys problemau dadansoddol, adnabod canlyniadau ac adnabod strategaethau a gweithdrefnau priodol yn cael eu hannog a'u hasesu drwy gydol y modiwl. |
Digital capability | Mae'r gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio a chyflwyno aseiniadau ysgrifenedig yn cael ei asesu'n uniongyrchol yn Asesiadau 1 a 2. |
Professional communication | Mae'r gallu i gyfleu syniadau'n effeithiol yn cael ei ddatblygu yn y seminarau a'i asesu'n uniongyrchol drwy Asesiad 1 a 2. |
Real world sense | Mae hunanreoleiddio, cymhelliant a sgiliau rheoli amser yn cael eu datblygu drwy'r modiwl a gofynnir i’r myfyrwyr gwblhau eu haseiniadau yn llwyddiannus. |
Notes
This module is at CQFW Level 4